Cystadleuaeth Celf y Nadolig Bargod – Cyhoeddi’r Enillydd

  Cyhoeddwyd: 11 Rhagfyr, 2025
  Amser darllen: 2m

I ddathlu’r Nadolig, cafodd plant lleol rhwng 4 ac 11 oed eu gwahodd i ddylunio golygfa Nadoligaidd liwgar a oedd yn cynnwys canol tref Bargod, gydag enillydd y gystadleuaeth yn cael arddangos ei waith celf mewn lleoliad ffenestr siop amlwg yn y dref.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch iawn o gyhoeddi bod Layla, 7 oed, o Benpedairheol, wedi cael ei dewis fel enillydd y gystadleuaeth.

Yn beirniadu’r gwaith celf oedd staff y Cyngor, Karen Pugh (Uwch Reolwr, Llyfrgelloedd) a Rebecca Barrett (Swyddog Cymorth Canol Trefi), ac fe wnaeth dyluniad dychmygus Layla, a oedd yn cynnwys cerflun “Angel Gwarcheidiol” Bargod fel canolbwynt y gwaith celf, greu argraff arnyn nhw.

I’w llongyfarch hi ar ei hymdrechion, cafodd Layla a’i theulu eu gwahodd i gyflwyniad arbennig gyda’r Cynghorydd Jamie Pritchard, Arweinydd y Cyngor, a’r Cynghorydd Howard Llewellyn, Maer Cyngor Tref Bargod. Cafodd Layla fasged anrhegion Nadoligaidd, a oedd yn rhodd garedig gan y Cyngor Tref, ynghyd â thystysgrif i gydnabod ei chyflawniad.

Mae dyluniad buddugol Layla bellach wedi’i drawsnewid yn boster Nadolig maint llawn sydd bellach yn cael ei arddangos yng Ngofod Dros Dro y Cyngor, 28–29 Y Stryd Fawr, Bargod, tan y Flwyddyn Newydd. Fel diolch ychwanegol am gymryd rhan, bydd Layla hefyd yn cael cadw’r poster ar ôl y Nadolig!

Hefyd yn cael canmoliaeth uchel am eu gwaith celf oedd Ffion, 6 oed, o Gilfach, a Kieara, 7 oed, o Treffilip – a gafodd eu gwahodd i’r cyflwyniad yn Neuadd y Dref, Bargod, a chael arwydd o ddiolch a thystysgrif am gymryd rhan.

Roedd yn benderfyniad anodd i’r beirniaid a oedd wrth eu bodd gyda chreadigrwydd ac ymdrech pawb a gymerodd ran, a hoffen nhw ddiolch i bawb dan sylw am wneud y gystadleuaeth Nadoligaidd hon yn gymaint o lwyddiant.

Hoffai’r Cyngor hefyd ddiolch i’r holl staff yn Llyfrgell Bargod a weithredodd fel man casglu ar gyfer y gwaith celf, mynd ati i hyrwyddo’r gystadleuaeth, a chyflenwi deunyddiau celf a chrefft i annog plant lleol i gymryd rhan.

Postiadau diweddar