Mae Cerddorfa Ffilharmonig Caerdydd yn dychwelyd i Goed Duon gyda rhaglen arall o gerddoriaeth wych o’r ffilmiau. Mae cerddoriaeth eleni yn cynnwys caneuon o Star Wars, Ben-Hur, Chicken Run, The Polar Express ac E.T. ac yn dathlu pen-blwydd The Sound of Music yn 60 oed!
Gan fod pob tocyn yn cael ei werthu ar gyfer y cyngerdd bob blwyddyn, bydd y gerddorfa yn rhoi dau berfformiad yng Nghoed Duon eleni. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi!
Wedi’i gyflwyno a’i arwain gan Michael Bell, MBE.