Dwrgi | Otter

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB
  01495 227206   BMI@caerphilly.gov.uk   Ewch i'r wefan

Gyda sblish a sblash llon,
Cei ddilyn dy galon,
A deifio i ddyfroedd y stori.

 ffwr balch a bodlon,
Wrth nofio lawr yr afon,
Dilyna lwybr y dwrgi.

Dilyna Dwrgi wrth iddi archwilio afonydd a nentydd, a ffeindio hud a lledrith ac ychydig bach o ddireidi ar hyd y daith.

Mae Dwrgi yn brofiad theatr dwyieithog, aml-synhwyraidd sy’n berffaith i blant o dan 5 oed, ond mae croeso i bawb! Mae’r cynhyrchiad hwn yn canolbwyntio ar storïa, iaith a dad-ddofi ein hunain, ac mae’n plethu’r Gymraeg a’r Saesneg yn naturiol.

Cefnogi gan The Ffern Folk Foundation.

Mae’n berffaith i siaradwyr Cymraeg, siaradwyr Saesneg ac unrhyw un sy’n dysgu Cymraeg neu Saesneg.

Gan y doniau tu ôl i sioeau fel Blaidd, Ned and the Whale a How to Defeat Monsters (And Get Away With It), ymunwch â Flossy a Boo am stori arall yn llawn hwyl,
cerddoriaeth ac antur.

Ar ôl y sioe, beth am aros gyda ni am fwy o hwyl ym myd Dwrgi, wrth i ni greu crefftau i fynd adref gyda chi ar gyfer eich anturiaethau anhygoel eich hun?

Gallwch ddisgwyl chwerthin, seinweddau meddal a chyfle i greu crefftau sy’n addas i bob anturiaethwr bach (a’u hoedolion!)

Digwyddiadau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon