Mae Neuadd Goffa Trecelyn yn llawn cyffro i gyhoeddi’r Ffair Crefftau a Dulliau Holistaidd nesaf – ac yn dal i chwilio am stondinwyr anhygoel i fod yn rhan o’r digwyddiad!
Galwad i bob person creadigol, gwneuthurwr ac ymarferydd dulliau holistaidd! P’un a ydych chi’n creu crefftau wedi’u gwneud â llaw neu’n cynnig cynhyrchion/gwasanaethau ysbrydol a lles, hoffai Neuadd Goffa Trecelyn glywed gennych chi.
Er enghraifft:
- Tarot
- Crisialau
- Canhwyllau
- Gemwaith
- Sebon
- Cynhyrchion holistaidd a lles
- Anrhegion a chrefftau wedi’u gwneud â llaw
Os hoffech chi drefnu stondin neu gael rhagor wybodaeth, anfonwch neges e-bost i: Paula.Harris@newbridgememo.co.uk