Ymunwch â Chyfeillion Parc Eco ar gyfer Ffair Nadolig deuluol a llawn hwyl!
Ychydig o hud y Nadolig, digon o hwyl yr ŵyl, a rhywbeth i’r teulu cyfan!
Paratowch i gychwyn tymor y Nadolig gyda Chyfeillion Parc Eco yn eu Ffair Nadolig!
Dewch â’r teulu gyda chi am brynhawn llawn hwyl, yn cynnwys gweithgareddau Nadoligaidd, danteithion yr ŵyl ac ysbryd cymunedol. P’un a ydych chi’n ymweld â Siôn Corn, yn gwneud gwaith creadigol gyda’r plant, neu’n pori drwy’r stondinau, mae rhywbeth i bawb ei fwynhau.
Ewch i ymweld ag Ogof Siôn Corn!
Creu atgofion hudolus o’r Nadolig drwy ymweld ag Ogof Siôn Corn!
Gall plant fwynhau profiad arbennig gyda Siôn Corn, derbyn ‘Selection Box’ blasus, a chael tynnu llun gydag ef ar eich ffôn symudol eich hun – fel y gallwch gadw’r atgofion gwerthfawr hynny.
Hyn oll am ddim ond 50c!
Bydd tocynnau ar gyfer yr Ogof ar gael o’r cownter lluniaeth ar y diwrnod.
Gweithgareddau Nadoligaidd!
Gadewch i’r plant bach fod yn greadigol gyda’n dewis o weithgareddau crefft Nadoligaidd.
Bydd digon o gyfleoedd i grefftio, creu a chael hwyl wrth fynd i ysbryd y Nadolig.
Mwy o hwyl yr ŵyl!
Bydd hefyd:
- Amrywiaeth o stondinau.
- Lluniaeth a danteithion Nadoligaidd.
- Raffl gyda gwobrau i’w hennill.
Digon o lawenydd y Nadolig ac ysbryd cymunedol!
Cefnogi eich Parc Eco Lleol
Trefnir y digwyddiad hwn gan Cyfeillion Parc Eco – elusen leol sy’n ymroddedig i ddod â’r gymuned ynghyd, ac i ddiogelu a chynnal Parc Eco Cefn Fforest.
Bydd yr holl arian a godir yn mynd tuag at barhau i gynnal a gwella ein Parc Eco cymunedol, gan helpu i sicrhau bod y gofod gwyrdd arbennig hwn yn parhau i fod ar gael i bawb ei fwynhau.
Drwy ddod draw a chefnogi digwyddiadau Cyfeillion Parc Eco Cefn Fforest, rydych chi’n helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol yn yr ardal.
Croeso i bawb!
Dewch â’ch teulu, gwahoddwch eich ffrindiau, ac ymunwch â ni am brynhawn llawn hwyl yr ŵyl.
Dewch draw, cyfarfod â Siôn Corn a chreu atgofion hudolus o’r Nadolig!
Friends of the Eco Park | Elusen Gofrestredig Rhif 1208421