Ffair y Gwanwyn, Coed Duon 2025
Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
High Street, Canol Tref Coed Duon NP12 1AH
01443 866390 digwyddiadau@caerffili.gov.uk
I holi am ofod masnachu a'r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Beth am ddianc rhag diflastod y gaeaf ac ymuno â ni wrth i ni ddechrau ein rhaglen ddigwyddiadau ar gyfer 2025! Ar gyfer ein digwyddiad cyntaf y flwyddyn, byddwn yn mynd i ganol tref Coed Duon ar gyfer ei Ffair y Gwanwyn flynyddol! Fferm anwesu, reidiau ffair, gweithdai i blant, theatr stryd, adar ysglyfaethus… Dyma rai o'r pethau a fydd yn Ffair y Gwanwyn, Coed Duon! Gyda llwyth o stondinau bwyd a chrefft, ffair bleser, a digonedd o weithgareddau a pherfformiadau stryd, bydd rhywbeth at ddant pawb! Felly, dewch draw i gael diwrnod llawn hwyl gyda’r teulu a chael cyfle i wneud dangos cefnogaeth i fusnesau lleol! Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yn High Street, NP12 1AH, lle bydd y ffyrdd ar gau. Mae'r digwyddiad hwn yn cynorthwyo #DewisLleol i roi hwb ac ennyn cefnogaeth i fusnesau lleol. Trefnir y digwyddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.Parcio a Thrafnidiaeth
Cliciwch neu daro ar y llun isod i weld fersiwn sgrin lawn o fap parcio cyhoeddus Ffair y Gwanwyn, Coed Duon.
Parcio
Mae mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i'r anabl, ar gael yn y lleoliadau canlynol:- Maes Parcio'r Stryd Fawr, NP12 1AH (talu ac arddangos)
- Thorncombe Road 2, NP12 1AW (talu ac arddangos)
- Thorncome Road 3, NP12 1AL (talu ac arddangos)
- Canolfan Siopa Coed Duon, NP12 1DG (talu ac arddangos)
- Woodbine Road, NP12 1AE (talu ac arddangos)
- Wesley Road, NP12 1PP (talu ac arddangos)
Rheseli beiciau
Bydd rheseli beiciau ar gael yn y lleoliadau canlynol:- 3 gyferbyn â Maxime Cinema ar y Stryd Fawr (NP12 1AH)
- 3 yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon (NP12 1DG)
- 1 ym Maes Parcio'r Stryd Fawr (NP12 1AH)
- 5 ar Hall Street (NP12 1AD)
Trafnidiaeth gyhoeddus
Mae bysiau yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon yn teithio i, ac yn dod yn ôl o Abertyleri, Bargod, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Pontypridd, Tredegar, Ystrad Mynach ac eraill. I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Goed Duon ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.Rhestr Stondinau
Dros 50 o stondinau masnach yn gwerthu bwyd blasus a chrefftau unigryw yn
ogystal ag ychydig o stondinau gwybodaeth. Mwynhewch gacennau blasus a chael
blas o ddiod neu ddwy gan y gwerthwyr gwirodydd a seidr! Prynwch anrhegion
crefft unigryw i'r teulu a ffrindiau neu beth am rhywbeth bach i chi eich hun neu hyd
yn oed eich anifail anwes!
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau llawn!
Rhaglen Adloniant
Dyma rai o’r adloniant a’r gweithgareddau gwych y byddwch chi'n eu gweld yn y digwyddiad:
- Rhaglen gerddoriaeth canu yn y stryd
- Anifeiliad egsotig
- Gweithdai crefft i blant AM DDIM
- Reidiau ffair hwyl
- Perfformwyr theatr stryd
- Gemau enfawr yn cynnwys Connect 4 a Jenga
- Golff gwyllt
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr - Digwyddiadau'r Gwanwyn Cyngor Caerffili 2025

Mae’r Coed Duon yn Dref Smart!
Archwilio'r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yn Ffair y Gwanwyn, Coed Duon, trwy lawrlwytho'r ap VZTA Smart Towns.
Lawrlwythwch am ddim yma.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
