Mae Ballet Cymru, y cwmni bale arobryn ac arloesol, yn cyflwyno taith fythgofiadwy sy’n llawn angerdd, brad a maddeuant.
Mae dehongliad newydd sbon o’r bale llawn ysbrydion hwn yn adrodd stori drasig a rhamantus Cymraes ifanc o’r enw Giselle, sy’n syrthio mewn cariad ond yn marw o dorcalon.
Mae’n cynnwys sgôr wreiddiol a chlasurol Adolphe Adam, coreograffi arloesol gan Darius James OBE ac Amy Doughty, gwisgoedd eithriadol ac unigryw, a thafluniadau fideo i’ch swyno.
Peidiwch â cholli’r bale gan y cwmni eithriadol ac arloesol hwn sy’n cynnwys cyfuniad rhagorol ac amrywiol o ddawnswyr gwych.
Mae Disgrifiad Sain wedi’i recordio ymlaen llaw yn y Gymraeg a’r Saesneg ar gael ar gyfer y perfformiad hwn.
Lluniau gan Sian Trenberth Photography.