Gweithdai Gwneud Llusernau Afon y Goleuni 2025

8 - 16 Tachwedd 2025 (Gweld amseroedd dyddiol)
  Canolfan Gymunedol y Twyn, Caerffili CF83 1JL
  01443 866390   digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Mynediad am ddim! Dim angen cadw lle ymlaen llaw!

Wrth i ni agosáu at dymor y Nadolig, beth am fwynhau rhywfaint o amser hwyliog i’r teulu AM DDIM a dod â’r plant i greu llusern Nadoligaidd arbennig ar gyfer Gorymdaith Lusernau Afon y Goleuni yng nghanol tref Caerffili ddydd Gwener 21 Tachwedd.

Mae’r gweithdai AM DDIM yn cael eu trefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’u hariannu gan Gyngor Tref Caerffili. Bydd y gweithdai’n brofiad braf i’r hen a’r ifanc! Gall plant ddangos eu creadigrwydd nhw a bydd oedolion yn cael cyfle i gael hwyl a chwarae rhan hefyd!

Boed yn llusern deuluol neu’n rhywbeth ychydig yn fwy mentrus, bydd digon o bapur crefft a glud i bawb gael creu campwaith!

Bydd y gweithdai llusernau rhad ac am ddim yn cael eu cynnal rhwng 10am a 5pm yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ddydd Sadwrn 8 Tachwedd, dydd Sul 9 Tachwedd, dydd Sadwrn 15 Tachwedd a dydd Sul 16 Tachwedd, yn barod ar gyfer yr orymdaith ddydd Gwener 21 Tachwedd am 6pm.

Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i ariannu gan Gyngor Tref Caerffili.

Gwybodaeth bellach

Amseroedd dyddiol y digwyddiad

Dydd Sadwrn 8 Tachwedd, 10:00am-5:00pm
Dydd Sul 9 Tachwedd, 10:00am-5:00pm
Dydd Sadwrn 15 Tachwedd, 10:00am-5:00pm
Dydd Sul 16 Tachwedd, 10:00am-5:00pm

Cyswllt

Tîm Digwyddiadau CBSC

Taliadau

AM DDIM

Lleoliad