Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
DWEUD CAWS! Mae Tîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi bod Gŵyl Caws Caerffili yn dychwelyd ar dydd Sadwrn 29 a ddydd Sul 30 Awst!
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caerffili, CF83 1JL, ac y man glaswelltog y tu ôl i Gastell Caerffili. Bydd digonedd o stondinau bwyd, crefft a diod gyda chwrt bwyd poeth arbennig ac ardal yfed ym Maes Parcio’r Twyn.
Bydd tafarndai a bistros allweddol yng nghanol y dref yn creu ardaloedd yfed awyr agored i ymwelwyr allu eistedd ac ymlacio wrth fwynhau’r adloniant.
Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod. Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a reidiau ffair bach i’r plant hefyd.
Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Caws Caerffili, ewch i’r wefan swyddogol neu wefan Facebook swyddogol.
Ar gyfer pob ymholiad am y digwyddiad, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Parcio a Thrafnidiaeth
Cliciwch ar y llun isod am fersiwn PDF o fap parcio.
Parcio
Mae meysydd parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i bobl anabl, ar gael yn y lleoliadau canlynol:
- Maes parcio Station Terrace CF83 1JU (talu ac arddangos)
- Cyfleuster parcio a theithio Caerffili CF83 1JU (am ddim)
- Maes parcio Crescent Road CF83 1AB (talu ac arddangos)
- Morrisons/Canolfan Siopa Cwrt y Castell CF83 1XP (am ddim, hyd at 3 awr)
Mae cyfleusterau parcio a cherdded AM DDIM yn y lleoliadau canlynol:
- Ysgol Martin Sant, Hillside, CF83 1UW
- Ysgol Gyfun Cwm Rhymni y Gwyndy, CF83 3HG
- Parcio gorlif ar Gae Chwarae Owain Glyndwr, Heol Cilgant, CF83 1AB (yn dibynnu ar y tywydd)
Gallwch chi ddefnyddio Parkopedia* i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feysydd parcio yn yr ardal, gan gynnwys prisiau.
❗️ Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Rheseli Beiciau
Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi’u nodi’n borffor ar y map. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road a’r tu allan i Morrisons.
Lleoliadau rheseli beiciau yng nghanol tref Caerffili:
- Y tu allan i Orsaf Drenau Caerffili: 5 rhesel dan do
- Gyferbyn â The Lazy Panda, Cardiff Road: 6 rhesel
- Ger Banc NatWest, Cardiff Road: 3 rhesel
- Gyferbyn â hen Fanc Barclays, Cardiff Road: 5 rhesel
- Y tu allan i fynedfa Morrisons: 3 rhesel
- Man cyhoeddus, Windsor Street: 5 rhesel
- Croesfan (ynys groesi i gerddwyr) rhwng y senotaff a Chanolfan Siopa Cwrt y Castell: 12 rhesel
- Y tu ôl i Ganolfan Gymunedol y Twyn: 4 rhesel
- Y tu allan i Lyfrgell Caerffili: 3 rhesel
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Mae Cyfnewidfa Drafnidiaeth Caerffili o fewn pellter cerdded i safle’r digwyddiad.
Mae Gorsaf Drenau Caerffili yn darparu gwasanaethau uniongyrchol i’r lleoliadau canlynol ac yn ôl:
- Bargod (bob oddeutu 10-20 munud)
- Ynys y Barri (bob oddeutu 10-30 munud)
- Caerdydd (bob oddeutu 10 munud)
- Rhymni (bob oddeutu 30-40 munud)
- Ystrad Mynach (bob oddeutu 10-20 munud)
Mae gorsaf fysiau Caerffili yn darparu cyswllt uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ewch i wefannau Trafnidiaeth Cymru* a Traveline Cymru* i gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.
❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â’r cwmni/sefydliad hwn.
Rhaglen Gerddoriaeth

Bydd ardaloedd cerddoriaeth yng nghanol y dref (Llwyfan Fach Ffos y Castell) a Crescent Road (Prif Lwyfan y Tŵr Cam) dan ei sang gydag amrywiaeth o artistiaid unigol, deuawdau a bandiau. Cyfle i ddawnsio ac ymlacio!
Clicwch yma i weld y rhaglen gerddoriaeth yn lawn!
Dydd Sadwrn 29 Awst
| Prif Lwyfan Cerddoriaeth y Tŵr Cam – Y tu ôl i Gastell Caerffili / Crescent Road | |
| 12:00 – 12:45 | Midnight Hour Band |
| 13:10 – 14:10 | The Oldfield Brothers |
| 14:40 – 15:40 | XEMPA |
| 16:00 – 17:00 | PRIF ARTISTIAID: Monkjack |
| Llwyfan Fach Cerddoriaeth Ffos y Castell – Cardiff Road | |
| 12:05 – 12:50 | Russell Jones Jr. |
| 13:10 – 14:10 | Frankie Wessen Duo |
| 14:30 – 15:30 | Gypsy Flower |
| 16:00 – 17:00 | The Stamford Hillbilly Street Band |
Dydd Sul 30 Awst
| Prif Lwyfan Cerddoriaeth y Tŵr Cam – Y tu ôl i Gastell Caerffili / Crescent Road | |
| 10:00 – 10:30 | Sound of Hope (perfformiad cymunedol) |
| 12:00 – 12:45 | Jane Williams Band |
| 13:10 – 14:10 | Moonstorm |
| 14:40 – 15:40 | The Casual 6 |
| 16:00 – 17:00 | PRIF ARTISTIAID: Dionne Bennett & the Pepperseeds |
| Llwyfan Fach Cerddoriaeth Ffos y Castell – Cardiff Road | |
| 12:05 – 12:50 | Bryony Sier |
| 13:10 – 14:10 | Mic & Fins |
| 14:30 – 15:30 | The Kingman Project |
| 16:00 – 17:00 | Hot Gin Swing Duo |
Rhaglen Adloniant

Mae rhai o’r mathau o adloniant y gellir eu disgwyl yn Ngŵyl Caws Caerffili yn cynnwys:
- Dwy lwyfan cerddoriaeth fyw
- Prif Lwyfan Cerddoriaeth y Tŵr Cam, y tu ôl i Gastell Caerffili
- Llwyfan Fach Ffos y Gastell yng nghanol tref
- Stondinau bwyd, diod a chaws ym maes parcio’r Twyn
- Stondinau crefft, gwybodaeth ac arddangosfeydd yng nghanol tref
- Reidiau ffair
- Arddangosiadau anifeiliaid
- Lle’r Farchnad Caerffili
- Ffair Grefftau a Marchnad Crafty Legs
a ragor!
Rhaglen adloniant lawn yn dod yn fuan.
Rhestr Stondinau

Yn ymuno â ni bydd dewis enfawr o gonsesiynau bwyd poeth, bariau, stondinau caws a digonedd o stondinau bwyd, diod, crefft a gwybodaeth eraill yng Ngŵyl Caws Caerffili!
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau!
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Haf 2026 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili


