Gŵyl Fwyd Rhisga 2024
Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
Parc Tredegar, Rhisga NP11 6BX
01443 866390 digwyddiadau@caerffili.gov.uk
Ymunwch a'r digwyddiad Facebook swyddogol Gwyl Fwyd Rhisga!
Ymunwch â ni ar gyfer Gŵyl Fwyd Rhisga gyntaf erioed ddydd Sadwrn 14 Medi 2024 ym Mharc Tredegar, canol tref Rhisga NP11 6BW! Ac yntau'n cynnwys llwyth o ddanteithion blasus, arddangosiadau coginio, reidiau ffair a digon o weithgareddau eraill i'w mwynhau, mae’n bendant yn un na ddylech chi ei golli! Felly, dewch draw am ddiwrnod allan llawn hwyl a bwyd i'r teulu! Trefnir y digwyddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390.Cogydd Enwog - Dean Edwards
Rydyn ni'n llawn cyffro i gyhoeddi y bydd y cogydd enwog, Dean Edwards, yn ymuno â ni yng Ngŵyl Fwyd Rhisga ddydd Sadwrn 14 Medi i ddarparu arddangosiadau coginio cyfareddol!
Ac yntau'n fwyaf adnabyddus am ei arddangosiadau coginio ar Steph's Packed Lunch ar Channel 4, This Morning a Lorraine ar ITV, daeth Dean yn enwog yn 2006 pan ddaeth yn ail ar MasterChef y BBC (a elwir yr adeg honno'n MasterChef Goes Large). Mae ei ryseitiau sy'n addas ar gyfer teuluoedd ac sy’n torri costau, ynghyd â'i ddull hygyrch o goginio, wedi'i wneud yn boblogaidd iawn ymhlith gwylwyr.
Fel awdur llwyddiannus chwe llyfr coginio, gan gynnwys Feelgood Family Food, Cook Slow, Cook Smart: Air Fryer a Cook Smart: Microwave, mae agwedd glyfar Dean at fwyd a'i ryseitiau hygyrch hefyd wedi ei helpu i gronni presenoldeb enfawr ar y cyfryngau cymdeithasol, gyda dros filiwn o ddilynwyr ar draws TikTok, Instagram, X (Twitter) a YouTube.
Bydd Dean yn tynnu dŵr o'ch dannedd yng Ngŵyl Fwyd Rhisga eleni gyda thri arddangosiad coginio 45 munud o hyd. Bydd sesiwn byr i gwrdd a chyfarch a llofnodi llyfrau ar ôl pob un. Mae llyfrau coginio anhygoel Dean ar gael i'w prynu ar-lein ac mewn llawer o siopau llyfrau, felly mae croeso i chi ddod â’ch copi eich hun gyda chi i gael ei lofnodi!
Wrth sôn am ymuno â Gŵyl Fwyd Rhisga, mae Dean yn dweud,
"Rydw i mor gyffrous i fod yn mynd i Ŵyl Fwyd Rhisga, alla i ddim aros i ddod i goginio ar eich cyfer chi i gyd. Bydda i'n coginio rhai o fy ryseitiau 'Fakeaway' enwog i'ch ysbrydoli chi, gobeithio, i goginio gartref."Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu Dean i Risga! Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dod draw am ddiwrnod gwych o fwyd a hwyl!
Parcio a Thrafnidiaeth
Parcio Ceir
Mae parcio i'r cyhoedd ar gael am ddim yn y meysydd parcio cyfagos canlynol:- Maes parcio Tredegar Terrace, NP11 6BY
- Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Rhisga a Phont-y-meister, NP11 6BD
- Maes parcio Tesco Extra (amser cyfyngedig ac ar gael i gwsmeriaid yn unig), NP11 6NP
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Gwasanaethau Trên Gallwch chi gyrraedd safle'r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar, NP11 6BX, mewn 7 munud ar droed o orsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meistr.- Mae gorsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meister ar reilffordd Glyn Ebwy, ac mae trenau'n rhedeg bob awr i Chasnewydd ac yn ôl a bob 30 munud i Lynebwy a Chaerdydd Canolog ac yn ôl. Efallai y bydd tarfu ar wasanaethau rheilffordd, gwiriwch ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i wasanaethau.
- X15 (Stagecoach): Bryn-mawr – Casnewydd trwy Drecelyn ac Abertyleri
- 56 (Stagecoach): Tredegar – Coed Duon – Casnewydd
- 151 (Stagecoach): Coed Duon – Casnewydd trwy Drecelyn a Rhisga
- R1 (Newport Bus): Casnewydd – Ty Sign – Rhisga
- R2 (Newport Bus): Tŷ-du (Morrisons) – Fernlea – Rhisga
Rheseli Beiciau
Mae rheseli beiciau ar gael y tu allan i Lyfrgell Rhisga, NP11 6BW.Rhaglen Adloniant
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant yn lawn!
Rhestr Stondinau
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau yn lawn!
Mae’r prosiect hwn yn cael ei gyllido gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU. Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.
