Helfa Traeth Rhisga 2026

23 Mai - 13 Mehefin 2026 (Gweld amseroedd dyddiol)
  Canol tref Rhisga NP11 6BW

Ahoi, gyfeillion!

Mae 10 arth môr-leidr wedi gwrthryfela ac yn cuddio mewn siopau ar hyd y stryd fawr, Rhisga. Allwch chi ddod o hyd i bob un ohonyn nhw i sillafu’r gair cyfrinachol?

Casglwch eich map am ddim o Lyfrgell Rhisga rhwng dydd Sadwrn 23 Mai a dydd Sadwrn 13 Mehefin neu’r gasebo wrth fynedfa Gŵyl Fwyd Traeth Rhisga, dydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Mehefin.

Dychwelwch eich ffurflen wedi’i llenwi i gasglu eich trysor a chael cyfle i ennill arth! 10 gwobr wych i’w hennill!

Gwiriwch oriau/diwrnodau agor lleoliadau wrth gynllunio eich antur.

Mae’r gweithgaredd hwn wedi cael cymorth ariannol gan Gyngor Tref Rhisga.

 

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad