Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.
Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!
I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Eleni, mae Parti Traeth Rhisga a Gŵyl Fwyd Rhisga yn dod at ei gilydd ar gyfer un digwyddiad haf mawr, gyda digonedd o fwyd a hwyl!
Bydd Parc Tredegar yng nghanol tref Rhisga yn gartref i ardal draeth enfawr, ynghyd â digon o fwyd a diod ar gyfer penwythnos cyfan llawn hwyl i’r teulu yn yr haul!
Trefnir ac ariannu’r digwyddiad hwn gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.
I holi am ofod masnachu a’r digwyddiad yn gyffredinol, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffoniwch 01443 866390.
Parcio a Thrafnidiaeth

Parcio Ceir
Mae parcio i’r cyhoedd ar gael am ddim yn y meysydd parcio cyfagos canlynol:
- Maes parcio Tredegar Terrace, NP11 6BY
- Parcio a Theithio Gorsaf Reilffordd Rhisga a Phont-y-meister, NP11 6BD
- Maes parcio Commercial Street, NP11 6EE
- Maes parcio Longbridge, Tredegar Street NP11 6BU
- Maes parcio Tesco Extra (amser cyfyngedig ac ar gael i gwsmeriaid yn unig), NP11 6NP
Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym
mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Trafnidiaeth Gyhoeddus
Gwasanaethau Trên
Gallwch chi gyrraedd safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar, NP11 6BW, mewn 7 munud ar droed o
orsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meistr.
- Mae gorsaf reilffordd Rhisga a Phont-y-meister ar reilffordd Glyn Ebwy, ac mae trenau’n rhedeg bob awr i Chasnewydd ac yn ôl a bob 30 munud i Lynebwy a Chaerdydd Canolog ac yn ôl. Efallai y bydd tarfu ar wasanaethau rheilffordd, gwiriwch ymlaen llaw am unrhyw newidiadau i wasanaethau.
Gwasanaethau Bws
Mae safleoedd bysiau Eglwys y Bedyddwyr Moriah a Spar, yn Rhisga, yn union y tu allan i safle’r digwyddiad yn Nhiroedd Tredegar.
- X15 (Stagecoach): Bryn-mawr – Casnewydd trwy Drecelyn ac Abertyleri
- 56 (Stagecoach): Tredegar – Coed Duon – Casnewydd
- 151 (Stagecoach): Coed Duon – Casnewydd trwy Drecelyn a Rhisga
- R1 (Newport Bus): Casnewydd – Ty Sign – Rhisga
- R2 (Newport Bus): Tŷ-du (Morrisons) – Fernlea – Rhisga
I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Risga ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.
Rheseli Beiciau
Mae rheseli beiciau ar gael y tu allan i Lyfrgell Rhisga, NP11 6BW.
Rhaglen Adloniant

Mae rhai o’r adloniant a’r gweithgareddau a gewch chi yng Ngŵyl Fwyd Traeth Rhisga, yn cynnwys:
- Traeth anferth
- Bwyd stryd
- Stondinau bwyd, diod, crefft a wybodaeth
- Arddangosiadau coginio a dosbarthiadau i blant gyda Artisan Cooks
- Reidiau ar gefn asynnod am ddim gyda Mike’s Donkeys
- Paentio wynebau gyda Glitter Girls
- Reidiau ffair bleser
- Perfformwyr theatr stryd
Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!
Rhestr Stondinau

Bydd nifer o stondinau yn gwerthu bwyd, crefft ac arddangos gwybodaeth, yn ogystal â lluniaeth diodydd poeth ac oer a heb anghofio’r fan hufen iâ holl bwysig!
Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau yn lawn!
Helfa Traeth Rhisga
Ahoi, gyfeillion! Mae 10 arth môr-leidr wedi gwrthryfela ac yn cuddio mewn siopau ar hyd y stryd fawr, Rhisga. Allwch chi ddod o hyd i bob un ohonyn nhw i sillafu’r gair cyfrinachol?
Casglwch eich map am ddim o Lyfrgell Rhisga rhwng dydd Sadwrn 23 Mai a dydd Sadwrn 13 Mehefin neu’r gasebo wrth fynedfa Gŵyl Fwyd Traeth Rhisga, dydd Sadwrn 6 a dydd Sul 7 Mehefin.
Dychwelwch eich ffurflen wedi’i llenwi i gasglu eich trysor a chael cyfle i ennill arth! 10 gwobr wych i’w hennill!
Gwiriwch oriau/diwrnodau agor lleoliadau wrth gynllunio eich antur.
Mae’r gweithgaredd hwn wedi cael cymorth ariannol gan Gyngor Tref Rhisga.
Y Noddfa Synhwyraidd

Rydyn ni’n gwybod y gall torfeydd a llawer o sŵn fod yn llethol i rai pobl, felly, bydd ein Noddfa Synhwyraidd ar gael yn ein digwyddiadau yng nghanol trefi. Bydd hi ar gyfer y rhai sydd ag awtistiaeth ac anghenion niwroamrywiaeth eraill, neu unrhyw un sydd angen cael seibiant.
Yng Ngŵyl Fwyd Traeth Rhisga, bydd y lle tawel ar gael yn Llyfrgell Rhisga, NP11 6BW, rhwng 9:30am a 4pm ar dydd Sadwrn 12 Medi.
Gweler rhestr wirio amgylcheddol ar gyfer digwyddiadau yma.
Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Haf 2026 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

