
I holi am ofod masnachu, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Sylwch: gall yr holl wybodaeth newid.
Gwisgwch yn gynnes a pharatoi ar gyfer tymor y Nadolig wrth i Farchnad Nadolig ddod i Ystrad Mynach ar ddydd Sadwrn 15 Tachwedd 2025!
Bydd Marchnad Nadolig yn Ystrad Mynach eleni yn dod â fflach y Nadolig i ganol y dref ddydd Sadwrn 15 Tachwedd, a bydd Cyngor Cymuned Gelli-gaer yn cynnal Groto Siôn Corn, felly peidiwch ag anghofio eich rhestr Nadolig chi!
Bydd y ffair yn rhoi cyfle i chi ddechrau ar eich siopa Nadolig yn gynnar, gyda detholiad arbennig o tua 40 stondin bwyd a chrefft, a fydd wedi’u gosod ar hyd y dref ac yn gwerthu anrhegion hardd, o addurniadau Nadolig a gemwaith i fwyd pob blasus a danteithion Nadoligaidd traddodiadol.
Bydd ychydig o reidiau ffair i blant bach ar hyd a lled canol y dref, yn ogystal â gwledd o gymeriadau Nadoligaidd yn crwydro safle’r digwyddiad i ddiddanu’r teulu cyfan. Bydd yna hefyd lwyfan cymunedol gyda pherfformiadau Nadoligaidd gan ysgolion, corau, bandiau a chantorion lleol yn helpu cael pawb yn ysbryd y Nadolig.
Yn ogystal â’r stondinau a’r adloniant, mae gan y dref ystod wych o siopau canol tref annibynnol. Cydiwch yn eich bagiau siopa chi a dewch draw i ymuno yn yr hwyl Nadoligaidd rhwng 9am a 5pm!
Bydd y ffair hefyd yn cynnal seremoni Cynnau Goleuadau Nadolig hudolus Cyngor Cymuned Gelli-gaer am 5pm.
Mae’r digwyddiad hwn AM DDIM!
Am ragor o wybodaeth, e-bostio digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Oes diddordeb gennych chi mewn cael stondin yn y digwyddiad hwn? Cysylltwch â digwyddiadau@caerffili.gov.uk.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i gynorthwyo gan Gyngor Cymuned Gelli-gaer.
Parcio a Theithio
Parcio
Bydd mannau parcio cyhoeddus, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn:
- Yr Ysgol Lewis, CF82 7WW (am ddim)
- Maes Parcio Oakfield Street, CF82 7WX (talu ac arddangos)
- Tesco, CF82 7DP (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Tesco yn unig)
- Lidl, CF82 8AA (am ddim am 2 awr, yn gyfyngedig i gwsmeriaid Aldi yn unig)
Sicrhewch eich bod yn gwirio’r arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Gwasanaethau trenau
Mae Gorsaf Drenau Ystrad Mynach o fewn pellter cerdded i safle’r digwyddiad ac mae’n gwasanaethu teithwyr sy’n teithio i’r lleoliadau canlynol ac ohonyn nhw:
• Bargod (bob oddeutu 10-20 munud)
• Ynys y Barri (bob oddeutu 10-30 munud)
• Caerdydd (bob oddeutu 10-20 munud)
• Rhymni (bob oddeutu 30-40 munud)
Gwiriwch wefan Trafnidiaeth Cymru am amserlenni trenau.
❗️Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
Gwasanaethau bysiau
Am newidiadau i lwybrau bysiau ar ddiwrnod y digwyddiad, gweler yr Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr ar waelod y dudalen hon.
Rheseli Beic
Gellir dod o hyd i raciau beic yn:
- Llyfrgell Ystrad Mynach, CF82 7BB
- Gwaelod Heol Bedwlwyn, CF82 7AD
- Gorsaf Drenau Ystrad Mynach, CF82 7BQ
- Tesco, CF82 7DP
Rhaglen Adloniant
Cyhoeddir rhaglen adloniant lawn yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Rhestr Stondinau
Cyhoeddir rhestr lawn o stondinau yn nes at ddyddiad y digwyddiad.
Mae’r prosiect hwn wedi ei ariannu yn rhannol gan Llywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Nod Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yw meithrin balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, a chefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.