Meet Fred

1 Mehefin 2026
  Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, Y Stryd Fawr, Coed Duon NP12 1BB
  01495 227206   BMI@caerphilly.gov.uk   Ewch i'r wefan

Archebwch eich tocynnau yma!

Ddegawd yn ôl, heriodd pyped dwy droedfedd y byd – ac mae’n dal i ymladd.

Ar ôl teithio i 20+ o wledydd a phlesio miloedd o gynulleidfaoedd, mae Meet Fred yn dychwelyd i’r Deyrnas Unedig am daith y 10 mlwyddiant. Mae’r cynhyrchiad tywyll o ddoniol hwn, a dderbyniodd ganmoliaeth y beirniad, yn dilyn Fred, pyped o ddefnydd sy’n ceisio byw bywyd cyffredin–cael gwaith, cariad, bod yn rhan o gymdeithas. Ond gan fod ei Lwfans Byw Pypedau dan fygythiad, mae byd Fred yn troelli allan o reolaeth. Sut allwch chi gadw eich annibyniaeth pan fydd y system yn rheoli’r cortyn?

Gyda ffraethineb crafog, dychan gwleidyddol miniog, ac eiliadau o dynerwch annisgwyl, mae Meet Fred yn gomedi na ddylech ei cholli sydd wedi canu cloch gyda chynulleidfaoedd ar draws y byd. Wedi ei chreu gan y cwmni theatr cynhwysol Hijinx, mae’r sioe yn cynnwys cast disglair o berfformwyr gydag anableddau dysgu a/neu awtistiaeth a heb anableddau, y mae eu profiad bywyd yn rhoi dyfnder a dilysrwydd i ymdrech Fred.

Yn dathlu 10 mlynedd o wneud i gynulleidfaoedd chwerthin, rhyfeddu ac ailfeddwl am y byd o’u cwmpas, mae Meet Fred yr un mor bwysig a pherthnasol heddiw ag erioed. Yn cynnwys iaith gref a phypedau noeth.

“Rhyfeddod gwirioneddol… gwylio hanfodol i bobl a phypedau ym mhobman.” – Total Theatre

Digwyddiadau yn Sefydliad y Glowyr, Coed Duon