Cadwch eich lle yma!
Mae Joy House Creations yn dychwelyd ar gyfer sesiwn paentio a sipian fisol yn Ffos Caerffili.
Lleoliad:
Llawr gwaelod The Undercroft, Ffos Caerffili CF83 1FN
Gan fod hwn yn lleoliad awyr agored wedi’i orchuddio, rydyn ni’n argymell eich bod chi’n gwisgo dillad cynnes yn y misoedd oerach!
Dewch â’ch anwyliaid ac ymuno â Joy House Creations ar ddydd Iau olaf bob mis yn Ffos Caerffili i fwynhau paentio crochenwaith. Ac yntau’n berffaith ar gyfer dechreuwyr ac artistiaid profiadol fel ei gilydd, mae’r gweithdy hwn yn cynnig amgylchedd hamddenol, llawn hwyl lle gallwch chi ymlacio wrth fwynhau creu eich potiau gwych gyda diod o’r bar yn Ffos. Hefyd, mae dewis gwych o fwyd yn Ffos y gallwch chi ei archebu yn uniongyrchol i’ch bwrdd wrth i chi baentio!
Mae’r gweithdy hwn ar agor am 3 awr, gan roi digon o amser i chi berffeithio’ch gwaith, ond rydyn ni’n cydnabod y bydd pob artist yn gweithio ar gyflymder gwahanol, felly mae croeso i chi ddefnyddio cymaint o’r amser ag sydd ei angen arnoch chi, neu baentio ail eitem os ydych chi’n teimlo’n uchelgeisiol!
Byddwch chi’n dewis o amrywiaeth eang o eitemau crochenwaith sy’n barod i chi greu eich dyluniadau unigryw gan ddefnyddio gwydredd lliwgar o ansawdd uchel. Yna, bydd Joy House yn defnyddio gwydredd clir a’u rhoi nhw yn yr odyn. Bydd eich creadigaethau yn barod i’w casglu gan Joy House Creations (lawr y ffordd yn Y Banc, 8 Y Twyn, Caerffili) yn y 4–7 wythnos nesaf (yn dibynnu ar amserlen yr odyn).
Mae eich tocyn £10 yn talu ffi ar gyfer y stiwdio, gan gynnwys eich holl ddeunyddiau paentio a diod o’r fwydlen gweithdy arbennig yn y bar wrth gyrraedd.
Byddwch chi’n talu am grochenwaith ar wahân ar y noson.
Dyma rai enghreifftiau o’r crochenwaith yn y casgliad, yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael:
- Mygiau – £12, £18, £20
- Jygiau llaeth – £15
- Dysgl tlysau – £10
- Fâs – £20 i £30
- Dysglau – £15 i £20
- Calonnau a sêr crog – £10
- Potiau planhigion – £12, £18
- Pot siwgr – £20
- Deiliad llwy – £18
- Pot offer – £30
- Platiau – £15 i £40
- Tebotiau – £25 i £40
Mae nosweithiau paentio a sipian ar agor i oedolion yn unig.