Parti Traeth Coed Duon 2026

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Canol tref Coed Duon NP12 1AB
  01443 866390   digwyddiadau@caerffii.gov.uk

Sylwer: gall yr holl wybodaeth newid.

Ymunwch â’r digwyddiad Facebook swyddogol i gael diweddariadau rheolaidd!

I wneud cais am ofod masnach yn unrhyw un neu ragor o’r digwyddiadau eleni, llenwch y ffurflen gais ar-lein.

Am ymholiadau cyffredinol am ddigwyddiadau, anfonwch e-bost i digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.


Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a Chyngor Tref Coed Duon yn falch o gyhoeddi bod Parti Traeth Coed Duon yn dod i’r dref! Ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf, bydd y Stryd Fawr, Coed Duon, NP12 1AB, yn cael ei thrawsnewid yn barti traeth trefol gyda digonedd o dywod, cadeiriau cynfas, a bwcedi a rhawiau i ddiddanu’r teulu cyfan. Bydd nifer fawr o reidiau ffair yn dod â bywyd i un pen y Stryd Fawr, a bydd stondinau, atyniadau a thraeth anferth yn y pen arall!

Bydd canol tref Coed Duon yn ferw o brysurdeb, gan roi hwb i nifer yr ymwelwyr â’r manwerthwyr a lleoliadau lletygarwch lleol, felly, cofiwch roi’r dyddiad yn y dyddiadur!

Cyngor Tref Coed Duon sy’n ariannu’r digwyddiad, a Thîm Digwyddiadau Caerffili sy’n ei drefnu.


Parcio a Thrafnidiaeth

Parcio

Mae mannau parcio cyhoeddus talu ac arddangos, gan gynnwys mannau parcio i’r anabl, ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • Maes Parcio’r Stryd Fawr, NP12 1AH
  • Thorncombe Road 2, NP12 1AW
  • Thorncome Road 3, NP12 1AL
  • Canolfan Siopa Coed Duon, NP12 1DG
  • Woodbine Road, NP12 1AE
  • Wesley Road, NP12 1PP

❗️ Mae parcio am ddim ar gael ym Mharc Manwerthu Coed Duon; fodd bynnag, mae’r maes parcio hwn wedi’i ddynodi ar gyfer cwsmeriaid y parc manwerthu a gallwch chi ond yn aros am uchafswm o 2 awr.

❗️ Mae gan bob un o’r meysydd parcio uchod gilfachau parcio i bobl anabl. Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Rheseli beiciau

Bydd rheseli beiciau ar gael yn y lleoliadau canlynol:

  • 3 gyferbyn â Maxime Cinema ar y Stryd Fawr (NP12 1AH)
  • 3 yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon (NP12 1DG)
  • 1 ym Maes Parcio’r Stryd Fawr (NP12 1AH)
  • 5 ar Hall Street (NP12 1AD)

Trafnidiaeth gyhoeddus

Mae bysiau yng Ngorsaf Fysiau Coed Duon yn teithio i, ac yn dod yn ôl o Abertyleri, Bargod, Caerdydd, Cwmbrân, Casnewydd, Pontypridd, Tredegar, Ystrad Mynach ac eraill.

I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Goed Duon ac yn ôl, ewch i wefan Traveline Cymru.


Rhaglen Adloniant

Mae rhai o’r adloniant a’r gweithgareddau a gewch ym Mharti Traeth Coed Duon yn cynnwys:

  • Traeth anferth
  • 3 ardaloedd cerddoriaeth fyw gyda 16 o artistiaid
  • Dros 40 o stondinau bwyd, crefft a wybodaeth
  • Reidiau ar gefn asynnod am ddim gyda Mike’s Donkeys
  • Adar ysglyfaethus gyda Falconry UK
  • Sioeau Pwnsh a Jwdi am ddim gyda Carl John the Magic Man
  • Paentio wynebau gyda Fab Faces
  • Gweithdai crefft i blant am ddim gyda Creative Workshops for Children
  • Reidiau ffair gyda Denzil Danter Fun Fairs
  • Gweithdai drymio am ddim gyda Drum Runners
  • Perfformiadau theatr stryd gyda pandas traeth, deifiwr môr dwfn, Capten Hook ac achubwyr bywyd
  • Masgotiaid gyda Memories and More a Studio 54
  • Ffair Grefftau a Marchnad Crafty Legs Events

Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant yn lawn!


Rhaglen Gerddoriaeth

Wesley Road

Time Performer
10am – 10:45am The Singing Lessons
11:00am – 11:45am The Melody Makers
12:00pm – 12:45pm Blackwood Musical Theatre Society
1pm – 1:30pm DYT Dance & Performing Arts
1:45pm – 2:30pm Studio 54 Blackwood
2:45pm – 4pm Ruby Kay

Woodbine Road

Amser Perfformiwr
10am – 11:30am Wrenna
11:30am – 1pm Secret Postal Society
1pm – 2:30pm Hannah Paloma
2:30pm – 4pm Huw James

Ger y Traeth

Amser Perfformiwr
10am – 11:30am Ophelia’s Beard
11:30am – 1pm Markham & District Band
1pm – 2:30pm Jamie Terrell
2:30pm – 4pm Russell Jones Jr.

Rhestr Stondinau

Dros 40 o fasnachwyr bwyd, diod a chrefftau, gyda chacennau, bara, losin, cyffug, crystau, sawsiau, siytni, eitemau wedi’u gwneud â llaw a llawer mwy. Mwynhewch flasu diod neu ddwy gan y gwerthwyr gwirodydd, cwrw a seidr.

Cliciwch yma i weld y rhestr stondinau yn lawn!


Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr – Digwyddiadau’r Haf 2026 – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

 

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad