Ffair y Gwanwyn, Bargod, yn denu miloedd o ymwelwyr i ganol y dref

  Cyhoeddwyd: 8 Ebrill, 2026
  Amser darllen: 4m

Ffair y Gwanwyn, Bargod – a gafodd ei chynnal ddydd Sadwrn 21 Mawrth – oedd ail ddigwyddiad mawr y flwyddyn, gan groesawu teuluoedd, cyplau a ffrindiau o bob oed am ddiwrnod bywiog o adloniant ac ysbryd cymunedol.

Roedd awyrgylch gwych yng nghanol y dref, wrth i dros 2,250 o ymwelwyr fwynhau amrywiaeth eang o stondinau a oedd yn cynnig bwyd blasus, crefftau unigryw a gwybodaeth leol werthfawr.

Roedd rhaglen gref o weithgareddau addas i deuluoedd yn sicrhau bod rhywbeth at ddant pawb. Cafodd plant eu diddanu gan reidiau ffair bleser, golff gwallgof am ddim, arddangosfeydd anifeiliaid, sioeau Pwnsh a Jwdi, a gweithdai crefft. Hefyd, roedd theatr stryd â thema’r Pasg yn cynnwys amrywiaeth o gymeriadau bywiog, gan gynnwys cwningod y Pasg, cwningod disglair a hyd yn oed alarch enfawr – i gyd yn rhyngweithio â’r dorf.

Fe wnaeth busnesau lleol chwarae rhan allweddol yn llwyddiant y digwyddiad, gan ddangos cefnogaeth ragorol ac ymgysylltu â’r gymuned. Fe wnaeth rhai busnesau ymestyn eu presenoldeb i’r stryd fawr, drwy gynnal gwerthiannau pen bwrdd a gweithgareddau hyrwyddo; ac fe wnaeth lleoliadau eraill, gan gynnwys Llyfrgell Bargod, gynnal gweithgareddau dan do i ddenu ymwelwyr a sicrhau’r nifer fwyaf posibl o ymwelwyr.

Mae cynyddu nifer yr ymwelwyr â chanol trefi yn parhau i fod yn nod canolog y digwyddiadau hyn; ac fe wnaeth Ffair y Gwanwyn, Bargod, lwyddo i wneud hynny. Hyd yn hyn eleni, mae dau ddigwyddiad – yr Ŵyl Fawr Gymreig a Ffair y Gwanwyn, Bargod – wedi denu bron i 5,500 o ymwelwyr i ganol trefi yn y Fwrdeistref Sirol, gan amlygu llwyddiant cynyddol ac effaith y rhaglen ddigwyddiadau.

Wrth edrych ymlaen, bydd Bargod yn parhau i gynnal cyfres o ddigwyddiadau cyffrous drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Ffair Fai, ddydd Sadwrn 9 Mai; Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, ddydd Sadwrn 11 Gorffennaf; a Ffair y Gaeaf, sy’n cynnwys cynnau’r goleuadau Nadolig a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni, ddydd Sadwrn 14 Tachwedd.

Y digwyddiad nesaf yn y calendr yw Gŵyl Bwyd, Diod a Cherddoriaeth Ystrad Mynach, ddydd Sadwrn 28 Mawrth. Mae’r manylion llawn ar gael ar wefan Croeso Caerffili a’r sianeli cyfryngau cymdeithasol.

Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili estyn diolch i Gyngor Tref Bargod a Chronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig am roi cymorth ariannol i’r digwyddiad hwn.

Dyma’r hyn a ddywedodd Cyngor Tref Bargod, busnesau lleol a masnachwyr am y digwyddiad:

Cyngor Tref Bargod – “Hoffai Cyngor Tref Bargod estyn diolch enfawr i bawb a oedd yn rhan o gynnal Ffair y Gwanwyn ym Margod, ddydd Sadwrn 21 Mawrth 2026. Roedd yn hyfryd gweld y dref yn llawn wynebau hapus, yn mwynhau’r amrywiaeth eang o weithgareddau a’r arlwy o fwyd a oedd ar gael iddyn nhw. Sioeau Pwnsh a Jwdi, perfformwyr stryd, stondinau crefft, darparwyr bwyd crefftwrol – roedd y digwyddiad yn wych, gyda heulwen yn goron ar y cyfan. Da iawn, bawb.”

The Jewellery Stall – “Diolch i chi i gyd am ddiwrnod gwych. Roedd yr haul yn tywynnu, daeth pobl allan ac roedd y stryd gyfan yn brysur.”

Kilted Dragon Distillery – “Hwn oedd ein digwyddiad cyntaf yn ardal Caerffili, ac roedd y tîm yn wych! Byddwn ni yn bendant yn cofrestru ar gyfer rhagor o ddigwyddiadau yn y rhanbarth.”

Sian’s Emporium – “Digwyddiad gwych arall. Roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn gwenu, o dîm y digwyddiad a oedd yn gwenu cyn 7am tan ddiwedd y dydd! I’r cynghorwyr Tref a Sir a ddaeth allan a gwneud eu hunain yn weladwy yn ystod y dydd. Hefyd, y busnesau lleol a wnaeth ein croesawu ni a gwneud sylw ar effaith gadarnhaol y digwyddiad ar y dref ac ar eu trosiant ar y diwrnod. O ran y gwaith trefnu a chymorth, mae hwn ymhlith yr haen uchaf o ddigwyddiadau yn y Deyrnas Unedig – ac rydyn ni’n mynd i lawer o ddigwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig. Diolch eto am holl gymorth ac ymdrech y tîm ar y diwrnod.”

Bowen & La Bamba Barbershop & Awaydayz Clothing – “Rydyn ni’n falch iawn o lwyddiant Ffair y Gwanwyn, Bargod. Fel busnes newydd sydd wedi symud i safle newydd yn ddiweddar, roedd y digwyddiad, a Helfa’r Pasg yn arbennig, yn ffordd wych o helpu pobl i ddod o hyd i le rydyn ni. Mae mor gadarnhaol gweld digwyddiadau fel hyn yn digwydd yn y dref. Mae angen rhagor ohonyn nhw yn bendant, oherwydd roedd dydd Sadwrn yn anhygoel.”

Peacocks, Bargod – “Roedd y siop yn brysur ac roedd awyrgylch da iawn yn y dref. Roedd yn hyfryd gweld stondinau ar hyd y Stryd Fawr, ac nid ym mhen uchaf y dref yn unig.”