Ymunwch yn yr hwyl gyda gorymdaith Nadoligaidd wych yng nghanol tref Caerffili, gydag arddangosfa tân gwyllt ysblennydd yn yr awyr dros Gastell Caerffili i ddilyn ar ddydd Sadwrn 2 Rhagfyr.
Bydd yr orymdaith arbennig hon, sy’n cael ei threfnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i hariannu gan Gyngor Tref Caerffili, yn cychwyn wrth ymyl y castell ar Crescent Road, ar yr ardal laswelltog gyferbyn â chaeau chwarae Owain Glyndŵr (CF83 1AB) am 5.30pm. Bydd yr orymdaith yn llifo trwy Barc Dafydd Williams o flaen y castell, gan ddod i ben ym maes parcio’r Twyn, lle bydd tân gwyllt yn dechrau oddeutu 6.15pm.
I wneud llusern ar gyfer yr orymdaith, beth am ymweld â’r gweithdai gwneud llusernau AM DDIM. Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal rhwng 10am a 5pm yng Nghanolfan Gymunedol y Twyn ddydd Sadwrn 18, dydd Sul 19, dydd Sadwrn 25 a dydd Sul 26 Tachwedd.
Mae’r digwyddiad hwn yn cael ei drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a’i ariannu gan Gyngor Tref Caerffili.