Mae dau gerflun trawiadol, wedi’u hysbrydoli gan stori Bendigeidfran, wedi’u gosod o amgylch glan y llyn yng Nghoedwig Cwmcarn. Wedi’u gwneud gan y grŵp artistiaid NoNaffArt CIC o Dde Cymru, mae’r gosodweithiau eisoes wedi cael adborth cadarnhaol gan ymwelwyr.
Wedi’u cynllunio gyda’r stori chwedlonol mewn golwg, mae’r cerfluniau hyn – ‘Troed Bendigeidfran’ a’r ‘Pair Dadeni’ – yn gwahodd pobl i ymgysylltu â mytholeg yr ardal. Mae’r stori wedi’i dyrchafu ymhellach drwy osod paneli dehongli yng Nghanolfan Ymwelwyr Cwmcarn. Mae paneli dehongli hefyd wedi cael eu gosod wrth y cerflun.
Roedd y prosiect hwn yn bosibl yn sgil cyllid gan raglen Y Pethau Pwysig, gan Croeso Cymru, a chyfraniad cyfatebol gan Adran Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili. Mae cyfraniad hefyd wedi’i wneud gan Gronfa Ffyniant Cyffredin y Deyrnas Unedig er mwyn cwblhau’r paneli dehongli.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Wastraff, Hamdden a Mannau Gwyrdd:
“Mae wedi bod yn wych gweld pa mor gyflym mae’r cerfluniau hyn wedi dal dychymyg pobl. Ers eu gosod nhw, maen nhw eisoes wedi dod yn destun siarad go iawn i ymwelwyr, gan annog pobl i archwilio glan y llyn a chysylltu â mytholeg gyfoethog yr ardal. Mae prosiectau fel hyn nid yn unig yn gwella profiad ymwelwyr yn Ffordd Goedwig Cwmcarn, ond hefyd yn helpu dod â’n straeon lleol yn fyw mewn ffordd greadigol a diddorol.”
Dywedodd Tania Bryan, Cyfarwyddwr a Dylunydd ‘Troed Bendigeidfran’:
“Roedd y cysyniad ar gyfer ‘Troed Bendigeidfran’ yn ddilyniant naturiol ar ôl creu’r gwenyn a’i drysor. Mae’r dyluniad wedi’i ysbrydoli gan natur a’r gred bod Bendigeidfran wedi’i wreiddio’n ddwfn yn hanes Twmbarlwm, felly mae’n ddarlun o droed Bendigeidfran ar ffurf coeden sy’n tyfu allan o’r pridd ei hun.”
Dywedodd Louis Smith, Dylunydd a Phrif Gerflunydd y ‘Pair Dadeni’:
“A minnau wedi fy ysbrydoli gan Bendigeidfran, fe wnes i ganolbwyntio ar ei bair dadeni sydd â’r pŵer i atgyfodi’r meirw, fel yn y Mabinogi. Gan ddefnyddio carreg Pennant leol. Mae trefniant y garreg wedi’i gymryd o’r dŵr sy’n rhuthro, gan gysylltu’r cerflun â’i amgylchedd lleol a nentydd Cwmcarn.”
Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i archwilio’r gweithiau celf hudolus hyn a phrofi stori Bendigeidfran drostyn nhw eu hunain.
Mae NONaffArt CIC, sef casgliad o artistiaid gweledol, dylunwyr, a hyfforddwyr lles, yn cwmpasu amrywiaeth eang o sgiliau, gan gynnwys celf gain, cerameg, gwneud gwydr, a cherflunio. Rhagor o wybodaeth: nonaffart.com
Diben Cronfa Y Pethau Pwysig, gan Croeso Cymru, yw sicrhau gwelliannau mewn seilwaith sylfaenol ond hanfodol i ymwelwyr mewn cyrchfannau twristiaeth strategol ledled Cymru i sicrhau bod pob ymwelydd yn cael profiad cadarnhaol a chofiadwy ymhob agwedd ar eu harhosiad. Rhagor o wybodaeth: https://diwydiant.croeso.cymru/cy/cefnogi-chi/gwybodaeth-chyngor-gyllid-ar-gael-ar-gyfer-busnesau-twristiaeth
Mae Coedwig Cwmcarn yn atyniad gwych i ymwelwyr, gydag amrywiaeth o weithgareddau sy’n addas i deuluoedd. Llwybr golygfaol, beicio mynydd, teithiau cerdded syfrdanol, y ganolfan ymwelwyr groesawgar, a rhagor – mae rhywbeth i bawb ei fwynhau. Mae Coedwig Cwmcarn hefyd yn cynnig llety ar y safle gan gynnwys cabanau a phodiau glampio ynghyd â lleiniau pebyll a charafanau i droi eich ymweliad undydd yn arhosiad estynedig hamddenol.
I gael rhagor o wybodaeth am Ffordd Goedwig Cwmcarn, ewch i: https://www.cwmcarnforest.co.uk/cy/