Mae ein gwefan wedi cael gweddnewidiad!
Hwb twristiaeth ar-lein Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yw Croeso Caerffilia’r lle i fynd os ydych chi’n chwilio am bethau i’w gwneud a llefydd i ymweld â nhw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili.
Mae gwefan Croeso Caerffili wedi cael ei uwchraddio a golwg newydd sbon, gyda nodweddion ychwanegol i’w gwneud hi’n haws i ymwelwyr a phobl leol archwilio Bwrdeistref Sirol Caerffili.
Dyma rai o’r nodweddion newydd:
- Golwg newydd sbon: Teimlad glanach, symlach, sy’n gwneud llywio’r wefan a dod o hyd i wybodaeth yn haws.
- Tudalennau canol trefi: Dewch i weld beth sydd ymlaen a ble i fynd ym mhob un o bum prif ganol tref Bwrdeistref Sirol Caerffili ac o’u gwmpas nhw: Bargod, Ystrad Mynach, Caerffili, Coed Duon a Rhisga.
- Rhagor o opsiynau i bori gwybodaeth: Gallwch chi weld busnesau a digwyddiadau fel rhestr, fel crynoluniau neu ar fap, pa bynnag fformat sy’n orau i chi.
- Chwilio byw: Mae canlyniadau chwilio bellach yn ymddangos wrth i chi deipio, gan ei gwneud hi’n haws dod o hyd i’r hyn rydych chi’n chwilio amdano.
- Opsiynau hidlo digwyddiadau: Eisiau gweld sioe fyw? Rhywbeth i’w wneud am ddim? Rhywle i fynd â’r plant? Gallwch chi hidlo digwyddiadau yn ôl categorïau mwy penodol.
Mae rhestrau a digwyddiadau newydd yn cael eu hychwanegu’n rheolaidd, felly, gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych yn aml!
Mae croeso i fusnesau twristiaeth, lletygarwch a hamdden ym Mwrdeistref Sirol Caerffili ofyn am gael eu rhestru ar y wefan am ddim. Os oes gennych chi fusnes neu ddigwyddiad yr hoffech chi ei gyflwyno i’r wefan, ewch i’r dudalen Cyflwyno eich busnes neu ddigwyddiad. Am ragor o gymorth, e-bostiwch CroesoCaerffili@caerffili.gov.uk.
Dilynwch Croeso Caerffili ar y cyfryngau cymdeithasol: