Disgyblion Ysgol Gynradd Waunfawr yn coginio rhywbeth arbennig ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili
13 Ebrill, 2026
Amser darllen: 3m
Fe wnaeth trydydd digwyddiad Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili y flwyddyn – sef Gŵyl Fwyd, Diod a Cherddoriaeth Ystrad Mynach – ddenu ychydig o dan 6,000 o ymwelwyr i ganol y dref ddydd Sadwrn 28 Mawrth, gan ei wneud y diwrnod prysuraf o’r flwyddyn i’r dref hyd yn hyn.
Roedd teuluoedd, cyplau a ffrindiau o bob oed yn mwynhau’r digwyddiad a’r cyfan roedd ganddo i’w gynnig, gan gynnwys amrywiaeth eang o stondinau yn gwerthu cynhyrchion bwyd a diod, yn ogystal â digonedd o weithgareddau i blant, fel reidiau ffair hwyl, golff gwyllt am ddim, arddangosfeydd anifeiliaid, gweithdai drymio am ddim a gweithdai crefft am ddim. Hefyd, fe wnaeth cwningod y Pasg theatr stryd grwydro’r stryd ac roedd grwpiau cymunedol a chantorion talentog yn Sgwâr Siloh a Bedwlwyn Road.
Bydd Ystrad Mynach yn cynnal ei Marchnad Nadolig flynyddol ddydd Sadwrn 5 Rhagfyr. Eleni, bydd yn cynnwys Cynnau’r Goleuadau Nadolig a Gorymdaith Lusernau Hetiau Siôn Corn gyda Cherddoriaeth a Goleuni – rhagor o ddyddiadau allweddol i helpu cefnogi busnesau lleol.
Mae’r digwyddiadau hyn yn codi proffil ein trefi ac yn cyflwyno ymwelwyr i’r busnesau lleol sydd yn y stryd fawr a thu hwnt, gan obeithio ysgogi ymweliadau dro ar ôl tro.
Hyd yn hyn eleni, mae tri digwyddiad (Yr Ŵyl Fawr Gymreig; Ffair y Gwanwyn, Bargod; a Gŵyl Bwyd, Diod a Cherddoriaeth Ystrad Mynach) wedi denu dros 11,000 o ymwelwyr i ganol ein trefi.
Digwyddiad nesaf y Fwrdeistref Sirol yn ein dyddiadur ni yw Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili ddydd Sadwrn 18 Ebrill. Mae’r manylion llawn ar gael gan Croeso Caerffili ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.
Diolch i Gyngor Cymuned Gelligaer a Chronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig am eu cymorth ariannol.
Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau lleol, masnachwyr a pherfformwyr am y digwyddiad:
Millie Bushell, perfformiwr – “Diolch yn fawr iawn am fy nghroesawu i. Roedd yn ddigwyddiad gwych i’r gymuned. Da iawn i’r holl drefnwyr. Rwy’n gobeithio ymuno â chi eto y tro nesaf.”
The Card Shop – “Mae wedi bod yn ddiwrnod prysur i ni, gydag awyrgylch da o amgylch y digwyddiad ac mae’r dref wedi bod yn llawer prysurach nag arfer.”
Fields of Magnetic Horizon Record Shop – “Mae wedi bod yn ddiwrnod cyson, bywiog – yn wych gweld wynebau newydd yn fy siop a phobl yn dod o hyd i’r hyn sydd ar gael. Mae’n braf cael y digwyddiadau hyn yn ein tref fach!”
Bluebelles – “Mae wedi bod yn ddiwrnod arbennig ac roedden ni’n brysur iawn. Roedd y tywydd yn dda a wnaeth gymaint o wahaniaeth. Da iawn i’r Tîm Digwyddiadau am bopeth, daliwch ati gyda’r gwaith da!”
Cwm Bakery – “Roedden ni’n brysur iawn o’r cychwyn cyntaf a wnaeth barhau trwy gydol y dydd. Roedd yn wych gweld pobl o gwmpas y lle. Mae digwyddiadau fel hyn yn helpu ein tref yn fawr iawn. Da iawn i bawb dan sylw!”