Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf Bargod 2024

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Canol Tref Bargod CF81 8QR
  01443 866390   digwyddiadau@caerffili.gov.uk

Gwybodaeth bellach

Cyswllt

Tîm Digwyddiadau CBSC

Taliadau

AM DDIM

Lleoliad

Canol tref Bargod fydd lleoliad cerddoriaeth gorau Bwrdeistref Sirol Caerffili ym mis Gorffennaf eleni gyda Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf gyntaf un Bargod! Bydd y digwyddiad newydd sbon hwn yn cynnwys prif lwyfan cerddoriaeth ar Lowry Plaza a phedair ardal cerddoriaeth stryd ledled canol y dref, gan gysylltu â The Square Royale, Murray’s/Emporium Snooker Club a Bourton’s Live Music Café Bar i ddod â chanol y dref i gyd yn fyw! Bydd cwrtiau yfed ledled y dref ochr yn ochr â’r lleoliadau allweddol hyn, yn ogystal â detholiad o fariau ar Lowry Plaza. (Sylwch: Mae caniatâd i yfed alcohol yn y cwrtiau yfed dynodedig yn unig. Nid oes modd yfed alcohol yn unrhyw le arall ar y safle.) Yn ogystal, bydd reidiau ffair a llawer o stondinau bwyd a diod ar y safle i helpu i greu’r diwrnod perffaith er mwyn ymlacio, dawnsio a chael ychydig o hwyl hafaidd! Hefyd, cofiwch edrych ar yr hyn sydd gan fusnesau a lleoliadau gwych canol tref Bargod i'w gynnig i ddathlu’r diwrnod, yn ogystal â Ffair a Marchnad Grefftau Bargod, sy'n cael ei chynnal gan Crafty Legs Events! Manylion y rhaglen gerddoriaeth ac adloniant i ddilyn – cadwch lygad am hynny! Ariennir y digwyddiad hwn gan Gyngor Tref Bargoed a'i drefnu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Rhaglen Gerddoriaeth

Cliciwch yma i weld y rhaglen gerddoriaeth lawn!

Prif Lwyfan – Lowry Plaza

Amser Perfformiwr

Dolenni

09:00 – 10:35

RecRock Facebook | Instagram
10:40 – 11:10 Andrew Darby

Facebook | Instagram

11:20 – 11:50

Wrenna Facebook | Instagram
12:00 – 12:30 Natalie Kay

Facebook

13:00 – 14:30

Albino Frogs Facebook
15:00 – 16:00 The Apple Tree Theory

Facebook | Instagram

16:30 – 17:30

Spencer Flay Facebook | Instagram
18:00 – 19:30 The Pandas

Facebook | Instagram


Ardal Gerddoriaeth 1 - Llyfrgell Bargod

Amser

Perfformiwr Dolenni
11:00 – 12:30 Rebecca Richards

Facebook | Instagram

12:30 – 14:00

Secret Postal Society Facebook | Instagram
14:00 - 17:00 Huw James

Facebook | Instagram


Ardal Gerddoriaeth 2 – The Square Royale

Amser

Perfformiwr Dolenni
11:00 The Bobby Jayne Experience & Brian

12:15

David Tasker
13:30 Tusker Duo

Facebook | Instagram

14:45

Huw & Angharad Davies
16:00 The Vale of Jam-Morgan

Facebook | Instagram


Ardal Gerddoriaeth 3 – Bourton’s Live Music Café Bar

Amser Perfformiwr

Dolenni

11:00 – 12:00

Ross Hicks Facebook | Instagram
12:00 – 13:00 James Oliver Band

Facebook | Instagram

13:00 – 14:30

Côr Meibion Bargod & Classical Soloists Facebook
14:30 – 17:00 Gone Kickers

Facebook


Ardal Gerddoriaeth 4 – Murray’s / Emporium Snooker Club

Amser

Perfformiwr Dolenni

11:00

Côr Ysgol Santes Gwladys

Facebook

11:30 Garin Fitter

13:00

Gareth Taylor Facebook | Instagram
15:00 Jaxson Layne

Facebook | Instagram


Rhaglen Adloniant

Dyma rai o’r gweithgareddau ac adloniant y gallwch chi ddisgwyl eu gweld yng Ngŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod:

Cliciwch yma i weld y rhaglen adloniant lawn!


Parcio a Thrafnidiaeth

Parcio

Mae parcio cyhoeddus am ddim ar gael yn y meysydd parcio canlynol: ❗️ Cofiwch wirio'r arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.

Trafnidiaeth Gyhoeddus

Mae Gorsaf Drenau Bargod a Gorsaf Fysiau Bargod wedi’u lleoli’n agos at ben y Stryd Fawr o safle’r digwyddiad. I gael rhagor o wybodaeth am drafnidiaeth gyhoeddus i Fargoed ac oddi yno, ewch i wefan Traveline Cymru neu Trainline. ❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.

Rheseli Beiciau

Gellir dod o hyd i raciau beiciau yn yr ardaloedd canlynol o Ganol Tref Bargod:

Hysbysiad Pwysig i Breswylwyr a Manwerthwyr - Digwyddiadau Canol Trefi Cyngor Caerffili, Haf 2024

Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau'r Haf 2024 ni. Cliciwch neu daro ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr.