DWEUD CAWS! Mae Tîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi bod Gŵyl Caws Caerffili yn dychwelyd ar dydd Sadwrn 31 Awst a ddydd Sul 1 Medi!
Paratowch am benwythnos bendigedig o gerddoriaeth fyw, bwyd gwych a llawer o hwyl! Eleni, rydyn ni’n gwneud y digwyddiad yn fwy gyda ffair fwy, neuaddau bwyd, ardal bicnic a hyd yn oed mwy o stondinau!
Oherwydd y gwaith datblygu parhaus yng Nghastell Caerffili, yn anffodus nid yw’r Caws Mawr yn gallu digwydd yn ei fformat arferol yn 2024, ond peidiwch â phoeni, gan fod Gŵyl Caws Caerffili sy’n dychwelyd eleni yn argoeli rhoi hwb MAWR!
Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal yng nghanol tref Caerffili, CF83 1JL, ac y man glaswelltog y tu ôl i Gastell Caerffili. Bydd digonedd o stondinau bwyd, crefft a diod gyda chwrt bwyd poeth arbennig ac ardal yfed ym Maes Parcio’r Twyn.
Yng nghanol y dref, bydd nifer o ardaloedd cerddoriaeth, yn ogystal â llwyfan canolog ym Maes Parcio’r Twyn gyda phrif artistiaid ‘Big Mac’s Wholly Soul Band’ ar dydd Sadwrn a ‘Slipped Disco’ ar dydd Sul.
Bydd tafarndai a bistros allweddol yng nghanol y dref yn creu ardaloedd yfed awyr agored i ymwelwyr allu eistedd ac ymlacio wrth fwynhau’r adloniant.
Bydd y digwyddiad yn gartref i gerddorion lleol a phrif gerddorion ynghyd â nifer o stondinau bwyd a diod. Bydd gweithdai cerddoriaeth, sesiynau crefft a reidiau ffair bach i’r plant hefyd.
Am ragor o wybodaeth am Ŵyl Caws Caerffili, ewch i’r wefan swyddogol neu wefan Facebook swyddogol.
Ar gyfer pob ymholiad am y digwyddiad, e-bostiwch digwyddiadau@caerffili.gov.uk neu ffonio 01443 866390.
Cliciwch ar y llun isod am fersiwn PDF o fap parcio.
Mae meysydd parcio cyhoeddus ar gael yn y lleoliadau canlynol:
Mae cyfleusterau parcio a cherdded AM DDIM yn y lleoliadau canlynol:
Gallwch chi ddefnyddio Parkopedia* i ddod o hyd i ragor o wybodaeth am feysydd parcio yn yr ardal, gan gynnwys prisiau.
❗️ Gwiriwch yr arwyddion ym mhob maes parcio am delerau ac amodau llawn.
Mae nifer o reseli beiciau yng nghanol tref Caerffili, wedi’u nodi’n borffor ar y map. Mae rheseli beiciau ar gael ledled Cardiff Road, y Twyn a thu allan i Morrisons.
Mae gorsaf drenau Caerffili ger safle’r digwyddiad, gyda threnau i Fargod a Chaerdydd ac yn ôl bob 15 munud, a threnau i Rymni ac yn ôl bob awr.
Mae gorsaf fysiau Caerffili hefyd yn darparu cyswllt uniongyrchol â Chaerdydd a llwybrau eraill ledled y Fwrdeistref Sirol.
Ewch i wefannau Trafnidiaeth Cymru* a Traveline Cymru* i gael rhagor o wybodaeth am amserlenni trenau a bysiau.
❗️ Gwiriwch am newidiadau posibl i amserlenni/llwybrau trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer diwrnod y digwyddiad cyn teithio.
Gwybodaeth teithio bwysig:
Mae disgwyl i fysiau redeg yn lle trenau ar reilffordd Rhymni ddydd Sadwrn 31 Awst a ddydd Sul 1 Medi, a allai effeithio ar eich taith i Ŵyl Caws Caerffili ac yn ôl.
Byddwch yn ymwybodol o unrhyw newidiadau i amserlenni trafnidiaeth gyhoeddus oherwydd hyn a chaniatáu amser ychwanegol wrth deithio neu wneud trefniadau teithio arall os oes angen.
*Nid yw Croeso Caerffili yn gysylltiedig â’r sefydliad hwn.
Rydyn ni’n llawn cyffro i gyhoeddi y bydd y Ras Gaws enwog yn rholio yng Ngŵyl Caws Caerffili eto eleni!
Bydd timau o 4 yn dechrau o gefn Castell Caerffili gyda’u holwynion o gaws, gan fynd trwy Barc Dafydd Williams i geisio cyrraedd blaen y castell yn gyntaf!
Mewn partneriaeth â Thîm Digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, bydd Ras y Caws Bach yn cael ei rheoli gan Chwaraeon Caerffili a noddi gan eInfinity.
Mae Ras y Caws yn digwydd dydd Sadwrn 31 Awst, gyda gofrestru â 9:30am a ras cyntaf yn digwydd â 10am.
Ras 1: 7-11 oed
Ras 2: 12-15 oed
Ras 3: 16+ oed
Gwobr o £100, tlws a medalau ar gyfer pob categori buddugol!
Mynediad AM DDIM ar gyfer y ras, a bydd yr holl gyfranogwyr yn cael tocyn am ddim i’r ffair! Hefyd, medalau ar gyfer y wisg ffansi orau!
Cysylltwch â Chwaraeon Caerffili:
Gyda thri llwyfan gwahanol ar hyd a lled canol y dref, mae cerddoriaeth i’w fwynhau bobman!
Dydd Sadwrn 31 Awst | Dydd Sul 1 Medi | |
Prif Lwyfan y Tŵr Cam – Maes Parcio’r Twyn |
|
|
Llwyfan y Foneddiges Werdd – Heol Caerdydd / The Kings Arms |
|
|
Llwyfan Ffos y Castell – Y tu ôl i Gastell Caerffili / Heol Cilgant |
|
|
Paratowch am benwythnos bendigedig o gerddoriaeth fyw, bwyd gwych a llawer o hwyl!
Gweler yr hysbysiadau isod am wybodaeth bwysig ynghylch cau ffyrdd, systemau traffig a mynediad i breswylwyr/manwerthwyr yn ystod ein Digwyddiadau’r Haf 2024 ni.
Cliciwch neu daro ar y delweddau i gael fersiwn sgrin lawn o’r Hysbysiad i Breswylwyr a Manwerthwyr.
Mae Caerffili yn Dref Smart!
Archwilio’r dref cyn i chi gyrraedd a gweld beth sydd ar gael gan fusnesau lleol tra byddwch chi yng Ngŵyl Caws Caerffili, trwy lawrlwytho’r ap VZTA Smart Towns.
Mae’r prosiect hwn ei gyllido’n rhannol gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn biler canolog i agenda Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac yn ddarparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ledled y DU gan fuddsoddi mewn cymunedau a lleoedd, cynorthwyo busnesau lleol, pobl a sgiliau. Am ragor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy.