Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell

September 28, 2019 10:00am - September 28 2019, 4:00pm

Mae Marchnad Grefftau a Bwyd Cwrt y Castell yn gartref i grefftau, bwyd a diodydd a gynhyrchir yn lleol.  Gyda dros 20 o stondinau, mae gennym ystod fawr o eitemau nad ydynt bob amser i’w cael ar y Stryd Fawr.

Mae dros 50% o’n stondinwyr yn byw ym Mwrdeistref Sirol Caerffili gyda’r gweddill yn dod o awdurdodau cyfagos.  Mae cael cynhyrchwyr Cymreig yn hynod bwysig i ni gan ein bod yn hoffi cefnogi busnesau bach lleol gymaint ag y gallwn.

Mae’r farchnad yn digwydd unwaith y mis – rhestrir yr holl ddyddiadau ar y tudalennau digwyddiadau.  Rydym wedi ein lleoli yng Nghanolfan Siopa Cwrt-y-castell sydd yng nghanol y dref gyferbyn â Chastell Caerffili. Mae gennym 3 awr o barcio am ddim yn y ganolfan siopa sy’n wir fantais i’r farchnad.

Rydym hefyd yn cynnal ein marchnadoedd ar ddiwrnodau fel y Caws Mawr, Gŵyl Fwyd Caerffili a Marchnad Nadolig Caerffili.  Rydym yn lwcus iawn i gael y Llwyfan Band yr ydym yn ei ddefnyddio ym mhob marchnad er mwyn i grwpiau lleol arddangos eu doniau.

Essential information

Address
Address
{:en}Castle Court Shopping Centre, Caerphilly{:}{:cy}Castle Court Shopping Centre, Caerphilly{:}
{:en}CF83 1NU{:}{:cy}CF83 1NU{:}
Phone
Phone
02920 864221
CTA Member

You may also be interested in: