Castell Caerffili

Deffro cawr sy’n cysgu

Yn tremio dros safle trawiadol 30 erw, Castell Caerffili yw’r castell mwyaf yng Nghymru, a’r mwyaf ond un ym Mhrydain, heblaw castell Windsor.

Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r gaer ganoloesol hon rhwng 1269 a 1271 gan Gilbert de Clare. Galwyd Gilbert Goch arno oherwydd ei wallt coch, arwydd o’i gefndir Normanaidd, ac fe adeiladodd y castell i gymryd rheolaeth dros Forgannwg ac i atal Tywysog Cymru, Llywelyn ap Gruffudd, rhag gwireddu ei uchelgeisiau yn ne Cymru.

Seiliwyd dyluniad y castell ar gylch consentrig o furiau, rhywbeth nas gwelwyd ym Mhrydain o’r blaen. Hefyd mae gan y castell gylch helaeth o amddiffynfeydd dyfrol a phorthdai enfawr. Mae’r cadarnle enfawr hwn yn parhau’n destament trawiadol i dra-arglwyddiaeth yr Eingl-normaniaid dros yr ardal hon.

Pwy sydd angen tŵr Pisa?

Er i’r Cymry ymosod arno lawer gwaith, mae Castell Caerffili wedi parhau’n gaer hynod anodd ei ei oresgyn ac efallai’n un o’r cadarnleoedd gorau erioed. Ni lwyddodd ymdrechion milwyr Oliver Cromwell hyd yn oed i dorri ffiniau’r castell, er iddynt adael craith eithaf trawiadol – y tŵr cam enwog, sydd ar ogwydd o 3m o’r sythlin ers 1648.

Fel y caws enwog, bu cysylltiad annatod rhwng y castell a Chaerffili ers tro byd. Mae’n dominyddu. Yn nodwedd amlwg. Cawr sy’n cysgu, yn barod am yr alwad i’r gad. Mae hefyd yn lleoliad gwych ar gyfer rhaglenni teledu a ffilmiau.

Essential information

Address
Address
Castle Street, Caerphilly
CF83 1JD
Phone
Phone
029 2088 3143
Website
Social Media
Facebook Page
Charges
Charges
See Cadw website for details.
CTA Member

You may also be interested in: