Rydyn ni wedi llunio’r canllawiau isod ar bynciau penodol i’ch helpu chi i ailagor eich busnes. Byddwn ni’n parhau i ddiweddaru’r wybodaeth hon. Rhowch wybod i ni os oes unrhyw beth yr hoffech chi i ni ychwanegu at ein gwefan. E-bost: waltesa@caerffili.gov.uk.
Helpu i gefnogi olrhain cysylltiadau drwy arddangos posteri QR swyddogol y GIG wrth fynedfeydd o 24 Medi 2020.
Find out more >Diben y canllawiau hyn yw rhoi gwybodaeth i fusnesau sy’n gweithio yn yr economi ymwelwyr yng Nghymru am y cyfyngiadau a’r gofynion cyfreithiol parhaus sy’n gysylltiedig â’r coronafeirws.
Find out more >Cyn ailddechrau gwaith, dylech chi sicrhau diogelwch yn y gweithle trwy gynnal asesiad risg yn unol â chanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.
Find out more >Canllawiau i gyflogwyr a chyflogeion gadw’n ddiogel yn y gweithle yn ystod pandemig coronafeirws (COVID-19).
Find out more >UK Hospitality Cymru – Canllawiau Ailagor ar gyfer Lletygarwch yng Nghymru.
Find out more >Mae’r canllawiau hyn wedi’u datblygu ar gyfer busnesau sy'n dymuno gweithredu yn ystod y pandemig COVID-19.
Find out more >Edrychwch ar yr asesiad risg enghreifftiol sydd wedi’i atodi y mae modd ei addasu ar gyfer eich busnes chi.
Find out more >Cyfrifoldebau cyflogwyr i helpu gyda phrofion coronafeirws ac olrhain cysylltiadau.
Find out more >Dylai perchenogion a gweithredwyr meysydd chwarae plant neu fannau chwarae awyr agored ddarllen canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru ar ailagor meysydd chwarae plant a mannau chwarae awyr agored.
Find out more >Darparu toiledau mwy diogel i’r cyhoedd yn ystod y coronafeirws.
Find out more >'Barod Amdani' yw nod swyddogol y DU i ddangos bod busnesau twristiaeth a lletygarwch wedi gweithio’n galed i ddilyn canllawiau COVID-19 y Llywodraeth a’r diwydiant a bod ganddynt broses ar waith i gynnal glendid ac i helpu cadw pellter cymdeithasol.
Find out more >Wrth i ddiwydiant twristiaeth Cymru ddechrau ailagor, neges gyfathrebu allweddol Croeso Cymru yw ‘Darganfod Cymru. Yn ddiogel.’
Find out more >Defnyddiwch y pecyn cymorth defnyddiol, a fydd yn barod ac yn cael ei rannu'n fuan, i hwyluso cymryd rhan. Yn y cyfamser, lawrlwythwch addewid Croeso Cymru a'n poster ac archwilio'r cynnwys newydd ar-lein. Rhannwch eich addewidion â Croeso Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio #addo #DiogeluCymru.
Find out more >Bydd bwytai, bariau, caffis a sefydliadau eraill sy’n defnyddio’r cynllun ‘Bwyta Allan i Helpu Allan’ yn cynnig gostyngiad o 50%, hyd at gyfanswm o £10 yr un, i bawb sy’n bwyta a/neu yfed y tu mewn yn ystod mis Awst.
Find out more >Edrychwch ar dudalen cymorth i fusnesau CBS Caerffili sydd â gwybodaeth am grantiau a’r cynllun cadw swyddi
Find out more >Mae'r Cyngor yn dal i redeg ei gynlluniau grantiau arferol i helpu busnesau newydd sy'n ehangu.
Find out more >Mae’r adroddiad wythnosol mwyaf diweddar o Arolwg Tracio Defnyddwyr Twristiaeth y DU ar gael ar wefan Visit Britain. Mae hyn yn darparu’r canlyniadau diweddaraf am agweddau a bwriadau i fynd ar wyliau yn y Deyrnas Unedig a Chymru eleni.
Find out more >Mae’r Deyrnas Unedig wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd, ac mae’r cyfnod pontio ar ôl Brexit yn dod i ben eleni. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi lansio ymgyrch newydd ‘Gwirio, Newid, Mynd’ i helpu busnesau ac unigolion i baratoi ar gyfer diwedd y cyfnod pontio.
Find out more >COVID-19 Safe Distance Banner 2m x 1m >
COVID-19 Safe Distance A4 Poster >
Customer COVID-19 Safety Poster >
Hand Santiser Provided Poster >
Floor Signage - Please Maintain a Safe Distance >