Lansio’r ymgyrch #DewisLleol ledled Bwrdeistref Sirol Caerffili!
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili wedi ymuno â nifer o fusnesau lleol i ddod â’r profiad siopa gorau i stepen eich drws.
Wedi’i ariannu drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, bydd yr ymgyrch yn cael ei chynnal trwy 2022, a’r nod yw annog trigolion i
#DewisLleol ac archwilio canol trefi allweddol (Bargod, Caerffili, Coed Duon, Rhisga, Trecelyn, Ystrad Mynach) a’r cyffiniau i ddiwallu eich holl anghenion siopa cyffredinol.