Maenordy Llancaeach Fawr

Mae te prynhawn ar gael yn y caffi. Cadwch fwrdd ymlaen llaw trwy ffonio 01443 412248.

I weld y fwydlen te prynhawn, cliciwch yma:

cym-afternoon-tea-winter-spring-2023.pdf (llancaiachfawr.co.uk)

I weld bwydlen y caffi, cliciwch yma:

cym-Cafe-Winter-Menu-aut-win-2022-added-prices.pdf (llancaiachfawr.co.uk)

I weld y fwydlen cinio dydd Sul, cliciwch yma:

cym-sunday-lunch-aut-win-2022.pdf (llancaiachfawr.co.uk)

Cewch gyfarfod â chymeriadau o 1645 wrth gamu i mewn i’r maenordy. Bydd y gweision yn adrodd llawer o hanesion am fywyd yn y 17eg ganrif ac am glecs y cyfnod.

Pan ddechreuodd y Rhyfel Cartref rhwng y Brenin a’r Senedd ym 1642, penodwyd y Cyrnol Edward Prichard yn Gomisiynydd Aräe i’r Brenin, i gasglu dynion ac arian at achos y Brenin yn Sir Forgannwg.

Erbyn canol 1645, roedd y cymorth yn lleihau a daeth y Brenin Siarl I ar daith i ddenu cymorth drwy Dde Cymru, gan ymweld â Llancaiach Fawr i gael cinio ar 5 Awst.  Yn fuan wedyn, newidiodd y teulu Prichard a llawer o deuluoedd bonheddig eraill Morgannwg eu hochr, gan droi i gefnogi’r Senedd. Yn ddiweddarach, fe wnaeth y Cyrnol Prichard ymladd ym mrwydr Sain Ffagan yn erbyn y Brenhinwyr a daeth yn Llywodraethwr Castell Caerdydd.

Heddiw gall ymwelwyr fwynhau ymweliad â gerddi’r Maenordy, arddangosfa ryngweithiol sydd newydd ei gosod, siop anrhegion, caffi a bwyty’r Ystafell Wydr.  Mae cinio ysgafn a byrbrydau ar gael yn y caffi o ddydd Mawrth i ddydd Sul.

Mae cinio dydd Sul ar gael bob dydd Sul ym Mwyty’r Tŷ Gwydr, ond mae angen cadw lle ymlaen llaw. Mae angen archebu cinio dydd Sul ar ffurf tecawê ymlaen llaw hefyd. Ffoniwch 01443 412248.

Ewch i’n gwefan ni i gael gwybod rhagor am wahanol ddigwyddiadau ar hyd y flwyddyn.

Mewn arolwg, enwyd Llancaiach Fawr yn un o’r deg adeilad â’r mwyaf o ysbrydion ym Mhrydain. Mae pethau rhyfedd wedi cael eu profi ym mron pob ystafell, ar hyd coridorau ac ar y grisiau. Pethau wedi’u gweld, eu clywed neu eu teimlo, neu weithiau arogleuon fioledau neu lafant yn yr awyr – ac arogl cig eidion rhost ar brydiau!

Mae teithiau ysbrydion yn dechrau ym mis Hydref ac mae modd cadw lle ar-lein trwy EVENTBRITE

Bwyd a Diod

Mae’r Lolfa Goffi yn cynnig ystod o gyfleoedd o ran lluniaeth i ymwelwyr achlysurol rhwng 10am a 4pm.

Pasio heibio? Galwch mewn am goffi yn y bore neu am de prynhawn. Cadwch le ymlaen llaw ar gyfer te hufen.

Tamaid bach yn ystod amser cinio? Cawl a/neu frechdanau.

Rhywbeth mwy sylweddol? Prif brydau cartref yn cael eu gweini rhwng

12:00pm a 2:30pm

Prydau i blant ar gael hefyd.

NEU

Ymunwch â ni yn ein Bwyty Tŷ Gwydr am ginio dydd Sul tri chwrs gyda chynnyrch tymhorol ffres yn cael ei weini

Rhaid cadw lle ymlaen llaw: 01443 412248.

Priodasau

Llancaiach Fawr yw’r lleoliad delfrydol ar gyfer diwrnod eich priodas chi.  Mae’r Ganolfan Ymwelwyr wedi’i lleoli yn nhiroedd maenordy o’r 17eg ganrif, ac mae’r Ystafell Ddigwyddiadau hunangynhwysol yn edrych dros diroedd gwledig tawel.  Gallwch chi ddewis pecyn priodas sy’n addas i chi, wedi’i deilwra i’ch union ofynion.  Cysylltwch â Victoria Scullin, Cydlynydd Priodasau Llancaiach Fawr ar 01443 412248.

  • Seremonïau trwyddedig priodas sifil a phartneriaeth sifil yn y Maenordy, Ystafell Wydr y Ganolfan Ymwelwyr a Neuadd Mansell
  • Mae lle i hyd at 70 o westeion ar gyfer seremoni neu frecwast priodas yn yr ystafell wydr ac mae gan Neuadd Mansell le i hyd at 120 o westeion ar gyfer seremoni neu dderbyniad nos
  • Mae lle i hyd at 50 o bobl yn Neuadd Fawr y Maenordy a gall y Parlwr sydd â phaneli derw ddal 30 o bobl ar gyfer seremoni

Llancaiach Fawr Wedding Brochure 201-19

Essential information

Address
Address
Gelligaer Road, Nelson, Treharris
CF46 6ER
Phone
Phone
01443 412248
Charges
Charges
Adult £8.50 Child / Concession £6.95 Under 5s free Family £25 (2 adults & 3 children) Adult group £6 pp 20+ people
CTA Member

You may also be interested in: