Lleoliadau Cyfeillgar i Gŵn ym Mwrdeistref Sirol Caerffili

Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn dod yn fwy a mwy cyfeillgar i gŵn… p’un a ydych chi’n chwilio am rywle i fwyta gyda’ch ci, rhywle i wneud ymarfer corff gydag ef neu aros dros nos mewn llety sy’n croesawu’ch cydymaith blewog! Mae yna lawer o opsiynau ar gael. Mae hyd yn oed hufen iâ arbennig i gŵn ar werth mewn nifer o leoliadau, heb sôn am de prynhawn a chacenni pen-blwydd i gŵn!

 Mwynhewch yr hyn sydd gan yr ardal i’w gynnig gyda’ch ffrind blewog wrth eich ochr.

 

 

  • Eglwys y Bedyddwyr, Argoed Caffi’r Ffynnon, Argoed – Mae cŵn yn cael eu caniatáu. I gael y manylion llawn, cysylltwch â’r lleoliad.
  • Basil & Rusty’s Ice Cream, Machen – Mae cŵn yn cael eu caniatáu ym mhob ardal ac eithrio toiled y ffatri a’r pwynt archebu. Mae llawer o gwn yn mwynhau hufen iâ hefyd! Mae powlenni dŵr a thapiau awyr agored yn cael eu darparu. Dylai cŵn aros ar dennyn bob amser. Pan o dan do, dylai perchnogion barchu ymwelwyr eraill sydd eisoes yn eistedd a gofyn a oes ots ganddyn nhw am y ci. Mae llwybr troed yn agos iawn at fynedfa’r parlwr gyda rhai teithiau cerdded hyfryd, ac mae’r lleoliad yn croesawu ymwelwyr sy’n chwilio am saib hamddenol wrth fynd â’u ci am dro.
  • Bistro 8 – Mae cŵn yn cael eu caniatáu yn y bar i lawr y grisiau ac yn yr ardaloedd eistedd awyr agored yn unig. Mae powlenni cŵn yn cael eu darparu.
  • Cwmni Bragu BrewMonster, Caerffili – Mae powlenni dŵr ar gael ar gais.
  • Brewers Lodge, Coed Duon – Bar a gardd gwrw sy’n gyfeillgar i gŵn. Rhaid cadw cŵn ar dennyn bob amser. I gael y manylion llawn, cysylltwch â’r lleoliad.
  • Castell Caerffili, Caerffili – Mae cŵn yn cael eu caniatáu. I gael y manylion llawn, cysylltwch â’r lleoliad.
  • Marchnad Crefft a Bwyd Cwrt y Castell, Caerffili – Mae cŵn yn cael eu caniatáu o amgylch ardal y farchnad ar dennyn.
  • Coffi Vista, Caerffili – Mae powlenni dŵr yn cael eu darparu. Mae croeso i gŵn cyfeillgar y tu mewn os ydyn nhw’n cael eu cadw ar dennyn byr.
  • Coedwig Cwmcarn, Cwmcarn – Mae’r ganolfan a’r llety yn gyfeillgar i anifeiliaid anwes. Mae hyn yn cynnwys podiau a chabanau dethol a’r caffi. Mae powlenni dŵr yn cael eu darparu.
  • Gatehouse, Caerffili – Yn gyfeillgar i gŵn y tu allan yn unig gyda phowlenni cŵn yn cael eu darparu, ac mae hufen iâ i gŵn ar werth hefyd!
  • Rhandy Gardd Glendene, Rhisga – Mae cŵn yn cael eu caniatáu, ac mae powlenni cŵn, tyweli cŵn a danteithion yn cael eu darparu.
  • Maenordy Llancaiach Fawr, Nelson – Mae cŵn tywys yn unig yn cael eu caniatáu yn yr adeiladau, y maenordy a’r ardd â wal, ond caniateir i ymwelwyr fynd â’u cŵn am dro ar y ddôl. Mae dŵr a thapiau ar gyfer cŵn yn y meysydd parcio.
  • Gwesty Llechwen Hall, Llanfabon – Detholiad da iawn o ystafelloedd gwely cyfeillgar i anifeiliaid anwes. Gall cŵn giniawa gyda chi yn y lolfa neu ar y teras. Mae gwelyau cŵn a bowlenni ar gael, ac mae bin cŵn holl bwysig yn ardal y maes parcio. Nid yw anifeiliaid anwes yn cael mynd i mewn i’r prif fwyty. Byddwch cystal â sicrhau bod anifeiliaid anwes yn ymddwyn yn dda. Nid yw gweld ci yn cario’r fodrwy mewn priodas yn anghyffredin chwaith!
  • Outdoor Explore Wales – Mae cŵn sy’n ymddwyn yn dda yn cael eu caniatáu, ond mae’n rhaid iddyn nhw fod yn bwyllog ac yn amyneddgar i aros ar y rhwyf-fwrdd!
  • Rock UK Summit Centre, Trelewis – Mae cŵn yn cael eu caniatáu yn y caffi ond mae angen iddyn nhw fod ar dennyn. Mae powlenni dŵr yn cael eu darparu y tu allan i’r dderbynfa ac mae danteithion cŵn am ddim ar gael yn y caffi. Hefyd, maen nhw’n gwerthu hufen iâ i gŵn poblogaidd, ‘Utterly Mutterly’!
  • Llety hunanarlwyo Taffodil, Bargod – Mae cŵn yn cael eu caniatáu. I gael y manylion llawn, cysylltwch â’r lleoliad.
  • Bar a Bwyty Ten Degrees, Caerffili – Yn cynnig iard gyfeillgar i gŵn gyda seddi i oddeutu 40 o bobl. Mae gorsafoedd powlenni dŵr i gŵn ar gael ac mae bwydlen fach i gŵn a fydd yn cynnwys hufen iâ cyn bo hir.
  • Bar a Bwyty’r Beech Tree, Ystrad Mynach – Mae cŵn sy’n ymddwyn yn dda yn cael eu caniatáu yn y lolfa a’r bar. Nid yw’r ystafelloedd gwely yn gyfeillgar i gŵn.
  • Gwely a Brecwast y Coach House, Rhydri – Mae’r llety’n gyfeillgar i gŵn gyda rhai cyfyngiadau. Dim ond un ystafell sydd yn cael ei hystyried yn addas ar gyfer cŵn. Mae cadw lle ar gyfer ci yn ddarostyngedig i ddisgresiwn y rheolwyr a rhaid ei gadarnhau cyn archebu gan fod y lleoliad yn cadw’r hawl i godi ffi ychwanegol. Rhaid talu am unrhyw ddifrod. Mae’r lleoliad yn cadw’r hawl i wrthod archeb os ydy’r ci yn anaddas ar gyfer yr adeilad ym marn y rheolwyr.
  • Tafarn yr Harp, Gelligaer – Mae croeso i gŵn ond rhaid eu cadw ar dennyn. Dŵr ar gael ar gais.
  • Tafarn y Junction, Hengoed – Mae croeso i gŵn yn y dafarn, ond yn ardal y bar yn unig. Rhaid eu cadw ar dennyn bob amser ac oddi ar y dodrefn.
  • Tafarn y Lord Nelson – Cyfeillgar i gŵn yn y bar a’r ardaloedd y tu allan. Mae powlenni dŵr a bisgedi cŵn yn cael eu darparu.
  • Siop Goffi’r Hen Lyfrgell, Caerffili – gall cŵn sy’n ymddwyn yn dda ddod i mewn ac mae dŵr ar gael ar gais.
  • The Plaza Café, Coed Duon – Mae croeso mawr i gŵn dan do yn y Plaza, ac mae modd darparu powlaid o ddŵr ar gais.
  • Tafarn a Bwyty’r Rock, Coed Duon – Mae powlenni yn cael eu darparu ac mae danteithion cŵn ar gael yn yr ardal eistedd y tu allan. Mae croeso i gŵn tywys yn unig yn yr ardaloedd bwyta.
  • The Rose and Crown, Eglwysilan, Bedwas – Mae cŵn yn cael eu caniatáu yn y lolfa a bar y ffermwyr ond nid yn yr ystafell wydr. Mae bowlenni dŵr wedi’u lleoli o amgylch yr adeilad. Mae danteithion cŵn am ddim y tu ôl i’r bar, a hufen iâ ‘Utterly Mutterly’ i gŵn ar gael i’w brynu.
  • Tafarn y White Cross, Groeswen – Mae casgen a thap y tu allan i gael dŵr yfed ar gyfer ceffylau a chŵn. Ni yw cŵn yn cael mynd ar y dodrefn.
  • The Wonky Bar, Caerffili – Mae croeso i gŵn ond rhaid eu cadw ar dennyn. Dŵr ar gael ar gais.
  • Tony’s cafe – bar – pizzeria, Crosskeys– Mae dŵr a danteithion yn cael eu darparu. Mae gardd ar gael ar gyfer pob ci sy’n ymddwyn yn dda.
  • Tŷ Coppi Adventures – Mae cŵn sy’n ymddwyn yn dda yn cael eu caniatáu i aros yn y llety gwyliau.
  • Bwthyn Tŷ-Nance – Bwthyn cyfeillgar i gŵn gyda gardd gefn gaeedig.
  • Under the Oak Glamping, Bedwas – Mae tâl ychwanegol ar gyfer dod â chŵn. Mae basged, blanced a phowlen i gŵn yn cael eu darparu. Mae’r pebyll saffari yn gyfeillgar i gŵn, ond nid yw’r wagenni trên yn addas ar gyfer anifeiliaid anwes.
  • Upper Grippath Farm Holiday Cottages, Rhisga – Mae Bwthyn Barrwg yn gyfeillgar i gŵn ond rhaid trefnu hynny ymlaen llaw.
  • Gwely a Brecwast Y Fan – Yn anffodus, nid yw cŵn yn cael dod i mewn i’r tŷ ond mae yna fannau eistedd awyr agored lle mae croeso i gŵn sy’n ymddwyn yn dda.
  • Y Galeri Caerffili – Mae cŵn sy’n ymddwyn yn dda yn cael eu caniatáu ar dennyn i’r oriel.

Essential information

Pet Friendly
Pet Friendly