Miloedd o bobl ym mhenwythnos Parti Traeth Rhisga

  Cyhoeddwyd: 19 Mehefin, 2025
  Amser darllen: 2m

Daeth ychydig o dan 2,000 o bobl i ymweld â Chanol Tref Rhisga dros y penwythnos, gyda bron i 1,500 yn ymuno yn yr hwyl ym Mharti Traeth Rhisga eleni, wedi’i gynnal ym Mharc Tredegar ddydd Sadwrn 7 a dydd Sul 8 Mehefin.

Er gwaethaf glaw trwm ddydd Sadwrn ac awel oer trwy gydol y penwythnos, parhaodd y digwyddiad i fod yn atyniad poblogaidd i’r gymuned leol.

Uchafbwynt y sioe, unwaith eto, oedd y traeth trefol enfawr, gyda llawer o bobl yn gwisgo dillad twym ac yn eistedd yno am y diwrnod. Roedd atyniadau am ddim yn cynnwys reidiau ar gefn asynnod, anifeiliaid egsotig, gweithdai crefft a rhagor.

Roedd y parc yn llawn stondinau yn cynnig bwyd poeth, diodydd, crefftau a gwybodaeth gymunedol. Cafodd yr hwb mewn ymwelwyr ei groesawu gan fusnesau lleol, wrth i’r digwyddiad helpu codi proffil Rhisga a’i stryd fawr.

Meddai’r Cynghorydd Jamie Pritchard, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Ffyniant, Adfywio a Newid yn yr Hinsawdd:

“Mae’n wych gweld digwyddiadau fel hyn yn dod â phobl i ganol ein trefi a chefnogi busnesau lleol. Mae’r gymuned wir wedi cefnogi Parti Traeth Risca eto eleni, ac rydyn ni’n falch o barhau i ddarparu digwyddiadau llawn hwyl i’r teulu sy’n helpu ein strydoedd mawr i ffynnu.”

Ychwanegodd Sarjant Liam Brown o Heddlu Gwent:

“Roedd nifer gwych o ymwelwyr yn y digwyddiad blynyddol, ac roedd yn gyfle gwych i mi a’r tîm cymdogaeth siarad â thrigolion, masnachwyr ac ymwelwyr, a rhannu rhywfaint o’r gwaith rydyn ni’n ei wneud i gadw Rhisga a’r gymuned ehangach yn ddiogel.”

Nesaf, bydd Rhisga yn cynnal Gŵyl Fwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, gyda rhagor o fanylion i ddod.

Parti Traeth Coed Duon yw’r digwyddiad mawr nesaf, ddydd Sadwrn 28 Mehefin, sy’n cynnwys traeth enfawr, ffair bleser, bwyd, crefftau a hwyl i’r teulu am ddim.

Ewch i www.visitcaerphilly.com/cy neu dilyn Visit Caerphilly ar y cyfryngau cymdeithasol i gael rhagor o wybodaeth.

Postiadau diweddar