Miloedd yn mynychu Parti Traeth Coed Duon am haul a hwyl

  Cyhoeddwyd: 11 Gorffennaf, 2025
  Amser darllen: 4m

Cafodd canol tref Coed Duon drawsnewidiad ar thema ‘ar lan y môr’ ddydd Sadwrn 28 Mehefin gyda dros 5,500 o ymwelwyr yn mynychu Parti Traeth Coed Duon, gan ei wneud yr ail ddiwrnod prysuraf o’r flwyddyn hyd yn hyn, gyda Ffair y Gwanwyn, Coed Duon, yn gynharach yn y flwyddyn yn nodi’r nifer uchaf o ymwelwyr.

Gyda diwrnod cynnes a sych yn creu amgylchedd perffaith, daeth teuluoedd, cyplau a ffrindiau o bob oed allan i fwynhau’r hwyl. Cafodd canol y dref bron i 2,000 yn fwy o ymwelwyr na’r dydd Sadwrn blaenorol, gan ddangos llwyddiant y digwyddiad yn denu torfeydd i Goed Duon.

Roedd amrywiaeth eang o stondinau yn cynnig bwyd, diod, crefftau, a gwybodaeth leol, gan roi digon i ymwelwyr i’w harchwilio.

Roedd y traeth enfawr yn ymddangos fel uchafbwynt y digwyddiad i ymwelwyr, ac roedd hyd yn oed yn cynnwys reidiau asyn, cadair gynfas anferth, a stondinau hufen iâ, i gyd yn helpu creu awyrgylch parti traeth bywiog yng nghanol y dref. Hefyd y flwyddyn hon, cafodd dwy ardal gerddoriaeth newydd eu cyflwyno, gan ychwanegu at Ardal Berfformio Cyngor Tref Coed Duon sydd eisoes yn boblogaidd, ac yn darparu adloniant ar bob cornel.

Hefyd, cafodd y digwyddiad gefnogaeth gryf gan fusnesau lleol, llawer ohonyn nhw’n sefydlu arddangosfeydd awyr agored neu’n mynd allan i’r stryd fawr i hyrwyddo eu gwasanaethau. Fe wnaeth busnesau gan gynnwys Cymdeithas Adeiladu’r Principality, Ymchwil Canser Cymru, Asda, McKenzie’s Café Bar a Sinema Maxime i gyd fanteisio i’r eithaf ar y cyfle.

Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am y digwyddiad:

The Westgate Bar – “Awyrgylch da a phrysur yn y dref drwy’r dydd.”

Greyhound Rescue Wales – “Roedd hi’n ddiwrnod prysur, daeth y digwyddiad â llawer o bobl i’n siop ac i’r dref, ac roedd y stondinau yn dda iawn eleni!”

McKenzie’s Café Bar – “Aeth y digwyddiad yn dda, roedd yn brysur iawn, a chawson ni ddiwrnod da. Roedd y tywydd yn dda hefyd, ac roedd yna amrywiaeth da o atyniadau yn y digwyddiad a oedd yn annog pobl ar hyd y stryd fawr gyfan.”

Kitchen Kings – “Diwrnod prysur iawn. Roedd yn wych gweld llawer o wynebau newydd yn ogystal â’n cwsmeriaid rheolaidd ni. Mae’n wych gweld digwyddiadau yn digwydd yng nghanol tref Coed Duon. Rydyn ni’n edrych ymlaen at y digwyddiad nesaf a da iawn i bawb sy’n cymryd rhan!”

New Look – “Diwrnod prysur iawn yn y dref, sy’n wych i ni, gan fod digwyddiadau fel hyn yn helpu denu pobl i’r dref a rhoi hwb i ffigurau ymwelwyr wythnosol ein siop. Cawson ni ddiwrnod cadarnhaol o werthiannau hefyd.”

Card Factory – “Digwyddiad gwych ac un o’r gorau mae Coed Duon wedi’i gael. Roedd y tywydd yn wych am newid, ac roedd yn braf gweld y dref mor brysur. Roedd gennym ni rai cwsmeriaid newydd yn ymweld â’n siop ni hefyd, a oedd yn beth da.”

My Little Pests – “Roedd yn ddiwrnod gwych. Roeddwn i mor brysur! Mor hyfryd gweld pawb yn y dref yn dod i gefnogi’r digwyddiad, ac roedd y tywydd ar ein hochr ni am unwaith!”

Wrenna – “Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig i fusnesau a pherfformwyr lleol. Fel cerddor annibynnol, rwy’n gwerthfawrogi’r cyfle i berfformio ledled fy nghymuned leol ac yn gobeithio y gall y digwyddiadau hyn barhau i esblygu a thyfu yn bell i’r dyfodol.”

Dywedodd John Hold, Clerc ar ran Cyngor Tref Coed Duon, “Digwyddiad am ddim llwyddiannus iawn arall i’r dref, gyda miloedd o bobl ar y Stryd Fawr yn mwynhau’r stondinau, difyrion, gweithgareddau ac adloniant amrywiol a oedd ar gael. Fe wnaeth hyn i gyd, gyda rhywfaint o dywydd rhesymol am newid, sicrhau diwrnod llawn hwyl i’r gymuned leol ac rwy’n gobeithio i fod wedi rhoi hwb i fusnesau lleol ar y Stryd Fawr. Diolch i bawb a fynychodd, ac edrychwn ni ymlaen at eich gweld chi ac eraill yn ein Ffair y Gaeaf ddydd Sadwrn 22 Tachwedd.”

Mae’r digwyddiadau hyn wedi’u cynllunio i gynyddu nifer yr ymwelwyr a chodi proffil canol trefi lleol, ac mae’r parti traeth yn sicr wedi cyflawni hyn. Dyma oedd ail ddigwyddiad mawr y flwyddyn yng Nghoed Duon, a bydd y dref hefyd yn cynnal marchnad Nadolig y gaeaf hwn.

Ein digwyddiad nesaf yw Gŵyl Gerddoriaeth yr Haf, Bargod, ar ddydd Sadwrn 12 Gorffennaf. Bydd yr ŵyl yn cynnwys sawl ardal gerddoriaeth a rhestr o gerddorion talentog.

I gael manylion am ddigwyddiadau sydd i ddod, ewch i www.visitcaerphilly.com/cy/ neu dilyn Visit Caerphilly ar y cyfryngau cymdeithasol.