Ffair Fai Bargod lwyddiannus arall yn denu miloedd o ymwelwyr i ganol y dref
22 Mai, 2026
Amser darllen: 3m
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn falch o gyhoeddi bod murlun blodau newydd yng nghanol tref Ystrad Mynach bellach wedi’i gwblhau, gan greu sblash o liw yng nghanol y dref a gwella golwg yr ardal leol.
Cafodd ochr Gwesty’r Beech Tree ei dewis fel lleoliad addas ar gyfer y gwaith yng nghanol y dref. Fe wnaeth Tîm Canol Trefi y Cyngor ymgysylltu â pherchennog yr adeilad a chomisiynu Andy O’Rourke o Malarky Arts i greu’r murlun.
Mae thema flodau y murlun yn bywiogi’r ardal gyfagos a’r bwriad yw ategu ac adlewyrchu cyfranogiad y dref yn y gystadleuaeth flynyddol, Cymru yn ei Blodau, a chydnabod ymdrechion y gwirfoddolwyr sy’n gweithio mor galed i baratoi’r dref cyn ymweliad y beirniaid.
Cafodd y prosiect hwn ei ariannu drwy Gronfa Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig (2022/25), gyda ffocws ar gryfhau gwead cymdeithasol, meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn lleol, a buddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol.
Dywedodd Jo Hillier-Raikes, Prif Swyddog Canol Trefi a Chymorth Busnes, “Unwaith eto, rydyn ni wrth ein bodd gyda’r canlyniadau mae Andy wedi’u cyflawni a’r ymateb cadarnhaol gan y cyhoedd a fydd yn ategu cais Ystrad Mynach ar gyfer Cymru yn ei Blodau. Gweithiodd Andy yn eithriadol o galed yn ystod y tywydd poeth yn ddiweddar i greu darn o waith celf dymunol sy’n dod â bywiogrwydd ychwanegol i ganol y dref. Bwriad y murlun yw annog balchder dinesig ymhlith trigolion lleol, a bydden ni’n annog ymwelwyr i weld y gwaith celf drostyn nhw eu hunain pan fyddan nhw yn y dref.”
Ychwanegodd perchennog Gwesty’r Beech Tree, Sue Andrews, “Rydw i wrth fy modd gydag ansawdd y gwaith a’r canlyniad, a hoffwn i ddiolch i Dîm Canol Trefi y Cyngor am ofyn i mi am ganiatâd i ddefnyddio’r adeilad. Ers hynny, rydw i wedi trefnu gydag Andy i estyn y murlun i flaen yr adeilad gan ei fod yn haeddu cael ei werthfawrogi a’i weld o bob ochr i’r Stryd Fawr, ac mae’r gwaith hwn bellach ar y gweill.”