Digwyddiadau a Gweithgareddau Gwyliau’r Haf 2026 ym Mrwdeistref Sirol Caerffili
20 Gorffennaf, 2026
Amser darllen: 14m
Ymwelodd miloedd â chanol tref Caerffili ddydd Sadwrn 4 Gorffennaf er mwyn dathlu Pride Caerffili eleni.
Gyda’r frenhines drag boblogaidd Miss Tina Sparkle yn cyflwyno, roedd y digwyddiad cyfeillgar i deuluoedd yn cydnabod ac yn dathlu cyfraniadau pobl LHDTC+ yn ein cymuned gyda Gorymdaith Pride eiconig a digon o gerddoriaeth fyw ac adloniant i gynnal y dathliadau drwy’r dydd.
Cafodd dros 2,300 o ymwelwyr eu cyfrif yng nghanol y dref trwy gydol y dydd, wrth i’r dref ddisgleirio gyda lliw. Helpodd busnesau lleol, sefydliadau cymunedol, stondinau bwyd, diod a marchnad hefyd i greu awyrgylch croesawgar a chynhwysol wrth ymuno yn yr hwyl.
Dywedodd Joanne Galazka, Swyddog Menywod a Chydraddoldeb yn Unite Cymru: “Dydd Sadwrn oedd y digwyddiad Pride gorau hyd yma. Yn fwy ac yn well na’r blynyddoedd blaenorol ac roedd yr awyrgylch yn wirioneddol gadarnhaol a bywiog. Mae’r angen i ni ddod at ein gilydd yn bwysicach nag erioed i gefnogi ein cymunedau ac unigolion LHDTC+. Roedd nifer y sgyrsiau a gawson ni gyda phobl o bob cenhedlaeth ddydd Sadwrn yn tynnu sylw at yr effaith y mae ein presenoldeb yn ei chael ar gymunedau fel Caerffili. Dyma oedd profiad cyntaf cymaint o bobl o ddigwyddiad Pride, ac rydyn ni’n falch o chwarae rhan fach yn hynny. Mynegodd pobl hefyd eu bod nhw’n teimlo’n ddiogel a’u bod nhw wedi cael eu cefnogi i fod yn nhw eu hunain.
Mae Unite Cymru mor falch o weithio mewn partneriaeth â’r Cyngor i wireddu’r achlysur, gan eu bod nhw bob amser yn sicrhau bod y gymuned wrth galon y digwyddiad, fel y dylai fod. Mae Pride yn brotest, ac mae cynrychiolaeth gadarnhaol a gweladwy ar ein strydoedd yn hanfodol yn ystod cyfnod o ymraniad.”
Dywedodd y Cynghorydd Jamie Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “O bosibl dyma’r Pride Caerffili mwyaf a gorau a gawson ni erioed. Awyrgylch llawn cyffro a brwdfrydedd cadarnhaol, fel arfer. Byddwn ni’n dechrau paratoi ar gyfer Pride 2027 yn fuan iawn. Ymlaen i’r bennod nesaf a thu hwnt!”
Hoffen ni ddiolch i’n noddwyr, gwirfoddolwyr a sefydliadau partner am eu cefnogaeth barhaus i’r digwyddiad.