Geshmak Bistro

  6 Clive St, Caerffili CF83 1GE
  01633 244440   Ewch i'r wefan

Mae Geshmak yn gaffi, bar a bistro annibynnol yng nghanol tref Caerffili, sy’n gweini bwyd cartref gyda bwydlen sy’n newid yn dymhorol. Yn ystod y dydd, mae Geshmak yn cynnig bar salad gourmet a chig eidion hallt, ynghyd â bwydlen gyda’r nos gyda bwyd wedi’i ysbrydoli o bob cwr o’r byd, wedi’i weini gan y prif gogydd a’r perchennog, Fran.

Mae bwyd yn cael ei goginio’n ffres wrth archebu ac mae Geshmak yn cynnal digwyddiadau jazz byw misol a digwyddiadau cerddorol eraill, ynghyd â blwydlenni blasu platiau bach a tapas ar adegau. Mae coctels yn cael eu cymysgu ar y bar ac mae rhestr win hyfryd sy’n addas i bob connoisseur.

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad