Jan Baker Wellbeing and Holistic Health

  Rosecroft, 1 Elim Way, Pontllanfraith, Coed Duon NP12 2AA
  07756 932601   jan@janbakerwellbeing.co.uk   Ewch i'r wefan

Gall ymwelwyr â’r Fwrdeistref wella eu ymweliad gyda sesiwn tylino aromatherapi ymlaciol gan therapydd arobryn sy’n ymroddedig i les a chysur.

Gan ddefnyddio olewau hanfod sydd wedi cael eu dewis yn ofalus, mae pob triniaeth wedi’i deilwra i leddfu tensiwn, annog ymlacio dwfn, ac adfer cydbwysedd. P’un a ydych chi wedi bod yn teithio, yn cerdded ar hyd y llwybrau lleol, neu’n archwilio atyniadau’r ardal, gall apwyntiad iechyd cyfannol hefyd helpu i leddfu poenau fel bod modd i chi barhau i fwynhau popeth sydd gan y Fwrdeistref Sirol i’w gynnig.

Mae apwyntiadau ar gael ar ddydd Llun 2pm-7pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener 9.30am–7pm a dydd Sadwrn 10am–1pm, mewn lleoliad tawel a chroesawgar lle gall ymwelwyr a phobl leol ymlacio, dadflino a gadael yn teimlo wedi’u hadfywio.

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad