

Mae Murray’s yn far, bwyty a gwesty wedi’i leoli yng nghanol tref Bargod. Gan gynnig dewis gwych o fwyd a diod, mae Murray’s yn fan poblogaidd i bobl leol ac ymwelwyr fel ei gilydd. Mae’r lleoliad yn cynnwys bar modern ac ardal fwyty i lawr y grisiau gydag ystafell achlysuron fawr i fyny’r grisiau, sy’n berffaith ar gyfer priodasau a digwyddiadau eraill.
Mae’r lleoliad hefyd yn cynnwys gardd gwrw syfrdanol gyda bar awyr agored i fwynhau heulwen yr haf. Mae Murray’s yn cynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, o ddawnsio a cherddoriaeth fyw i wylio gemau chwaraeon mawr.
Ddim y bell o orsafoedd trenau a bysiau Bargod, mae Murray’s yn ganolfan wych ar gyfer archwilio Cwm Rhymni uchaf, Bwrdeistref Sirol Caerffili a thu hwnt.
Bwyty
Gallwch chi ymlacio a blasu prydau cartref blasus Murray’s yn y mannau croesawgar, cain sydd â goleuadau heddychlon a swyn clasurol. Mae Murray’s yn ymdrechu i ogleisio’r daflod trwy weini unrhyw beth o ginio dydd Sul i amrywiaeth o fwyd ‘gourmet’. Mae opsiynau brecwast, cinio a swper ar gael, gan ddefnyddio cynnyrch tymhorol ffres a chyflenwyr lleol.
Cymerwch olwg ar opsiynau bwydlen Murray’s i weld beth sy’n plesio eich tafod.
Ystafelloedd Gwesteion
Arhoswch yn un o ystafelloedd gwesteion deniadol Murray’s, sy’n cynnwys pedair ystafell wely pâr, pob un wedi’i ddylunio’n feddylgar gydag ystafelloedd ymolchi ensuite ar gyfer eich cysur. Mwynhewch gyfleustra parcio preifat am ddim, gan sicrhau profiad di-dor a hamddenol o’r eiliad y byddwch chi’n cyrraedd. Yn berffaith ar gyfer arhosiad byr ac ymweliadau estynedig, mae ystafelloedd Murray’s yn cynnig encil cyfforddus i ymlacio ac ailwefru.
Gardd Gwrw
Mae gan Murray’s ardd gwrw wych lle gallwch chi dorheulo yn yr haul ac ymlacio. Does dim byd tebyg i ymlacio gyda ffrindiau a theulu mewn gardd gyda’ch hoff ddiod. Yn well fyth, mae gan yr ardd gwrw ei bar ei hun wedi’i leoli ynddi, gan arbed gorfod mynd yn ôl i mewn i gael eich diodydd. Gyda diodydd yn amrywio o lagers a seidr sy’n tynnu syched i winoedd blasus a choctels ar wahanol themâu, mae rhywbeth at ddant pawb. Mae Murray’s hefyd yn cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw y tu allan, yn ogystal â digwyddiadau sy’n addas i deuluoedd.