Neuadd Goffa Trecelyn

  Y Stryd Fawr, Trecelyn NP11 4FH

Mae Sefydliad Gweithwyr Glofeydd Celynen a Neuadd Goffa Trecelyn yn adeiladau rhestredig Gradd II a Gradd II* yng nghanol Trecelyn, de Cymru. Mae adeilad y Sefydliad, a gafodd ei agor ym 1908, yn gofeb barhaol i’r glowyr a weithiodd mor galed i’w adeiladu, ac mae’r Neuadd Goffa, a gafodd ei hadeiladu ym 1924, yn gofeb i’r milwyr lleol a gollodd eu bywydau yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.

Maen nhw bellach yn gweithredu fel lleoliad cymunedol a digwyddiadau yng nghanol y Cymoedd!

Mae Neuadd Goffa Trecelyn yn cynnal amrywiaeth wych o ddigwyddiadau drwy gydol y flwyddyn. O berfformiadau byw o gerddoriaeth a chomedi i wahanol ddosbarthiadau a chlybiau, mae’r Neuadd Goffa yn addas i bob chwaeth ac oedran.

Mae Neuadd Goffa Trecelyn hefyd wedi cael ei ddefnyddio fel lleoliad ffilmio ar gyfer nifer o gynyrchiadau teledu a ffilm proffil uchel, gan ymddangos mewn rhaglenni’r BBC fel Doctor Who a Sherlock, yn ogystal â rhaglen Netflix Sex Education i enwi ond ychydig.