The Lord Nelson Inn

  Commercial Street, Nelson CF46 6ND
  01443 451116   Lordnelson2023@hotmail.com

Man bwyta hamddenol…

The Lord Nelson Inn yw un o adeiladau hynaf Nelson. Wedi’i addurno’n chwaethus, gyda llawer o thyllau a chorneli a thanau coed, mae’r dafarn a’r bwyty yn denu pobl i i gael sgwrs, diod a/neu fwyd.

Mae The Lord Nelson Inn mewn lleoliad da i ymweld ag atyniadau lleol fel Castell Caerffili, Parc Beicio Cymru, Rock UK Summit Centre a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae bod yn fusnes annibynnol yn bwysig iawn i The Lord Nelson Inn, ac mae staff yn gweithio gyda’i gilydd fel un teulu mawr hapus. Yn ogystal â chael enw da gyda’r gymuned leol, mae ymwelwyr yn teithio’n rheolaidd o bellteroedd anghredadwyi fwyta ac yfed yn y dafarn.

Rhagoriaeth The Lord Nelson Inn yw gweini bwyd a phlesio cwsmeriaid mewn lleoliad hamddenol. Mae’r fwydlen wedi’i chynllunio i gynnig dewis mawr o ffefrynnau, gyda’r holl brydau’n cael eu paratoi yn ffres. Grilio yw arbenigedd The Lord Nelson Inn, gyda stêcs bob tro yn plesio gwesteion. Mae cogydd y bwyty yn fwy na pharod i ddarparu ar gyfer ceisiadau unigol a bydd bob amser yn treulio amser i sicrhau bod popeth yn iawn. Maen nhw’n prynu cynhyrchion o fusnesau cyfagos i gefnogi’r economi leol. Mae opsiynau llysieuol, fegan a heb glwten ar gael hefyd.

Mae cwsmeriaid yn dychwelyd yn rheolaidd ac yn dod yn ffrindiau, ac mae The Lord Nelson Inn yn ymfalchïo mewn canolbwyntio ar gwsmeriaid. Mae croeso i grwpiau mawr a theuluoedd, ac mae’r dafarn hefyd yn gyfeillgar i gŵn yn ardal y bar (mae bisgedi cŵn bob amser ar gael!).

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad