Twmbarlwm Luxury Retreat

  Maesmawr Farm, Rhisga NP11 6FY

Ewch i wefan Twmbarlwm Luxury Retreat i drefnu eich arhosiad!

Mae Twmbarlwn Luxury Retreat yn fusnes cabanau gwyliau ar Fferm Maesmawr, wedi’i leoli ar ochr y bryn uwchben tref Rhisga. Gyda golygfeydd hyfryd a digonedd o amwynderau, dyma’r lleoliad perffaith ar gyfer gwyliau yng nghefn gwlad.

Mae tri chaban yno i gyd, sy’n denu gwesteion o bell ac agos i fwynhau’r tawelwch a’r golygfeydd godidog, gyda 30 o ymwelwyr yr wythnos ar gyfartaledd. Mae gan dref gyfagos Rhisga ddigonedd o gaffis, tafarndai a bwytai i ddewis ohonyn nhw, ac mae ganddi gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus ardderchog â Glynebwy, Caerdydd a Chasnewydd.

Mae’r llety yn cynnwys sawna sy’n cael ei thanio â phren gyda phwll plymio rhewllyd, ynghyd â ffwrn pizza ac ardal bicnic. Bydd cyfleusterau sba ar gael i’w defnyddio cyn bo hir. Bydd y rhai sy’n dwli ar yr awyr agored wrth eu boddau, gyda Choedwig Cwmcarn a Thwmbarlwm yn agos iawn ac yn cynnig hyd yn oed mwy o harddwch naturiol.

Yn ogystal â’r golygfeydd delfrydol, gall ymwelwyr gael cipolwg ar fywyd anifeiliaid gwych, gyda’r fferm yn gartref i geffylau, alpacaod a hyd yn oed emiwod!

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Twmbarlwm Luxury Retreat a dilyn eu tudalennau cyfryngau cymdeithasol.

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Lleoliad