Sblash o greadigrwydd: Churchill’s Fish Bar yn dathlu talent gymunedol

  Cyhoeddwyd: 5 Rhagfyr, 2025
  Amser darllen: 2m

Mae Churchill’s Fish Bar yn Rhisga wedi mynd i ysbryd y Nadolig eleni ac wedi rhoi dyluniad eu ffenestr siop yn nwylo plant lleol talentog.

Cafodd aelodau ifanc o’r gymuned eu gwahodd i fod yn greadigol a dylunio arddangosfa ffenestr Nadolig ar gyfer y siop bysgod a sglodion boblogaidd hon, a agorodd o dan reolaeth newydd yn gynharach eleni. Roedd ansawdd y ceisiadau dychmygus yn wych ac roedd perchennog y busnes, Laura Ellis, a Swyddog Cymorth Canol Trefi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, Rhiannon Taylor, wrth eu bodd gyda’r nifer o geisiadau roedd angen iddyn nhw eu beirniadu. Ar ôl llawer o ystyriaeth, cafodd lun lliwgar ac ysbrydoledig Ariya, 11 oed, ei ddewis fel y cais buddugol.

Yn ogystal ag ennill pryd o fwyd i 4 person a phecyn celf i annog ei sgiliau creadigol, mae dyluniad Ariya wedi’i drawsnewid yn furlun ffenestr syfrdanol gan Uncle Matts Face Painting. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gweld y dyluniad i’ch hun yn Churchill’s Fish Bar (109 Commercial Street) ac efallai prynnu o’r cynnigion arbennig Nadoligaidd tra byddwch yno.

Gan bob un ohonom ni yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, diolch yn fawr iawn, a da iawn i bawb a gymerodd ran yn y gystadleuaeth ac i Churchill’s Fish Bar am weithgaredd Nadoligaidd mor ddifyr.