
Sefydliad y Glowyr, Coed Duon, yn enillydd yng ngwobrau Tripadvisor Travellers’ Choice ar gyfer 2025
1 Awst, 2025
Amser darllen: 2m
Bydd beicio o safon fyd-eang yn dychwelyd i Fwrdeistref Sirol Caerffili fis nesaf wrth i Gymal 6 Dynion Taith Prydain Lloyds rasio o Gasnewydd i Gaerdydd drwy Fwrdeistref Sirol Caerffili ddydd Sul 7 Medi.
Bydd y cymal yn cynnwys beicwyr proffesiynol gorau’r byd gan gynnwys ymddangosiad olaf Geraint Thomas mewn ras ffordd.
Bydd sawl cyfle i gefnogi’r beicwyr gydag amseroedd bras wedi’u rhyddhau:
Dechrau
Gorffen
Bras amcan yw’r amseroedd a gallan nhw newid. Bydd rhestr fanwl lawn o amseroedd yn cael ei rhyddhau yn ystod yr wythnosau nesaf.
Bydd rhagor o wybodaeth am gau ffyrdd ar gael yn yr wythnosau nesaf wrth i’r manylion terfynol gael eu cadarnhau gyda threfnwyr y ras.
Bydd system cau ffyrdd dreigl yn symud gyda’r confoi rasio ac mae disgwyl iddi leihau’r aflonyddwch y bydd trigolion yn eu profi.
I gael rhagor o wybodaeth, gan gynnwys manylion ynghylch cau ffyrdd, dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor.
I gael gwybodaeth swyddogol am y cymal a diweddariadau am y llwybr, ewch i: www.britishcycling.org.uk/tourofbritain/men/stagesix