Teuluoedd yn ymweld â Choed Duon a Rhisga i fwynhau hwyl yr ŵyl yr Helfa Coblynnod

  Cyhoeddwyd: 22 Rhagfyr, 2025
  Amser darllen: 2m

Daeth tymor yr ŵyl â hud ychwanegol i ganol trefi Coed Duon a Rhisga wrth i blant lleol gymryd rhan mewn Helfeydd Coblynnod y Nadolig arbennig wedi’u trefnu gan dîm Canol Trefi y Cyngor.

Yn digwydd rhwng 21 Tachwedd a 13 Rhagfyr, roedd yr helfeydd yn gyfle i blant a’u teuluoedd hela am goblynnod direidus Siôn Corn a oedd yn cuddio mewn siopau lleol. Fe wnaeth cyfranogwyr gasglu mapiau a thaflenni gweithgareddau am ddim o lyfrgelloedd lleol a lleoliadau eraill cyn mynd ati i archwilio canol y trefi a dod o hyd i’r coblynnod cudd mewn 10 siop ym mhob tref. Cafodd pob cyfranogwr becyn o siocledi neu losin am gymryd rhan a’u cynnwys mewn raffl i ennill gwobrau Nadolig!

Yng Nghoed Duon, cafodd Amber ei dewis fel enillydd prif wobr Helfa Coblynnod Coed Duon a chafodd focs o siocledi a oedd yn rhodd garedig gan Gyngor Tref Coed Duon, ynghyd â llyfr gan Lyfrgell Coed Duon. Yn ogystal, cafodd Liam ac Ella eu dewis yn ail a chawson nhw focs o siocledi hefyd gan y Cyngor Tref am gymryd rhan! Yn Rhisga, cafodd Charlie ei ddewis fel enillydd prif wobr Helfa Coblynnod Rhisga a chafodd fag o roddion bach Nadoligaidd arbennig a thaleb gan fusnes lleol yn Rhisga, Sofa & Coffee, i ddiolch iddo am gymryd rhan. Hefyd, cafodd pob enillydd dystysgrif am eu hymdrechion.

Roedd yr Helfeydd Coblynnod yn rhan o raglen ehangach o weithgareddau Nadolig yng nghanol trefi wedi’u trefnu gan Dîm Canol Trefi Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gyda’r nod o gynyddu nifer yr ymwelwyr adeg y Nadolig yn y prif drefi – Bargod, Coed Duon, Caerffili, Rhisga ac Ystrad Mynach – wrth hyrwyddo siopa lleol a chefnogi busnesau lleol.

Hoffai Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ddiolch i’r holl fusnesau, teuluoedd a chynghorau tref dan sylw am wneud Helfeydd Coblynnod eleni yn llwyddiant hudolus! Diolch arbennig hefyd i staff llyfrgelloedd Coed Duon a Rhisga am hwyluso’r gweithgareddau drwy weithredu fel man gollwng ar gyfer taflenni’r Helfeydd Coblynnod, dosbarthu siocledi/losin fel gwobr am gymryd rhan, ac annog plant lleol i gymryd rhan yn y gweithgaredd.