Ymgyrch Siôn Corn 2024

Mae apêl flynyddol ‘Ymgyrch Siôn Corn’ Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn cael ei lansio heddiw a bydd yn parhau ar agor tan ddydd Gwener 29 Tachwedd.

Mae cannoedd o blant ledled y Fwrdeistref Sirol mewn perygl o beidio â chael anrheg y Nadolig hwn. Nod Ymgyrch Siôn Corn yw darparu anrhegion i’r rhai sy’n cael eu henwebu gan eu gweithwyr cymdeithasol.

Rydyn ni’n gofyn i drigolion addo arian parod trwy ein tudalen codi arian i sicrhau bod plant lleol yn cael anrhegion erbyn y diwrnod mawr.

Mae’r llinell addewidion yn darparu ffordd gyflym a hawdd i grwpiau ac unigolion hael addo arian parod i blentyn y Nadolig hwn. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw ymweld â’n tudalen rhoddion.

Os ydych chi am brynu tocyn rhodd, peidiwch â lapio’r daleb. Yn hytrach, rhowch mewn amlen a sicrhau ei fod wedi’i farcio’n glir â’r wybodaeth isod:

  • Teitl yr amlen fel ‘Ymgyrch Siôn Corn’
  • Gwerth y daleb/cerdyn rhodd

Cyfyngwch werth pob taleb/cerdyn rhodd unigol i £10. Mae angen mynd â’r cardiau rhodd heb eu lapio i ganolfan gasglu erbyn ddydd Gwener 29 Tachwedd. Mae’r canolfannau casglu fel a ganlyn:

  • Llyfrgell Bargod (CF81 8QR)
  • Llyfrgell Coed Duon (NP12 1AJ)
  • Llyfrgell Caerffili (CF83 1JL)
  • Llyfrgell Trecelyn (NP11 4FH)
  • Llyfrgell Rhymni (NP22 5NU)
  • Llyfrgell Rhisga (NP11 6BW)
  • Llyfrgell Ystrad Mynach (CF82 7BB)

Fel arall, gallwch chi wneud addewid drwy ffonio 01443 866577 neu e-bostio YmgyrchSionCorn@caerffili.gov.uk.

Dywedodd y Cynghorydd Elaine Forehead, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, “Mae Ymgyrch Siôn Corn yn dod â llawenydd ac ysbryd y Nadolig i blant na fydden nhw’n cael anrheg gartref. Mae’n achos mor deilwng a dim ond drwy roddion hael gan fusnesau a thrigolion y Fwrdeistref Sirol y mae’r ymgyrch yn gallu cael ei chyflawni.

Ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, hoffwn i ddiolch i bawb sy’n parhau i gefnogi Ymgyrch Siôn Corn, naill ai yn y blynyddoedd diwethaf neu eleni. Rydw i’n edrych ymlaen at weld llwyddiant Ymgyrch Siôn Corn 2024.”

Essential information

You may also be interested in: