Yr Ŵyl Fawr Gymreig yn denu miloedd o ymwelwyr i lansio rhaglen ddigwyddiadau 2026

  Cyhoeddwyd: 18 Mawrth, 2026
  Amser darllen: 5m

Daeth miloedd o ymwelwyr i ddigwyddiad cyntaf 2026, yr Ŵyl Fawr Gymreig, a gafodd ei gynnal ddydd Sadwrn 28 Chwefror.

Daeth teuluoedd, cyplau a grwpiau o ffrindiau o bob oed i fwynhau digwyddiad cofiadwy yng nghanol y dref. Roedd dewis trawiadol o stondinau busnesau a masnachwyr lleol yn arddangos bwyd blasus, nwyddau wedi’u gwneud â llaw a gwybodaeth werthfawr, ochr yn ochr ag amrywiaeth eang o weithgareddau i blant, gan gynnwys reidiau ffair, dafad rodeo a gweithdai crefft am ddim.

Daeth theatr stryd â thema Gymreig â naws llawn sbri i’r diwrnod, gyda chennin Pedr enfawr, chwaraewyr rygbi, gwraig mewn gwisg draddodiadol, draig goch, tylwyth teg Celtaidd a hyd yn oed ffermwr gyda’i ddefaid yn rhyngweithio â’r torfeydd. Ychwanegodd llu o ddiddanwyr bywiog at yr awyrgylch, gan ennyn diddordeb ymwelwyr gyda digon o hwyl drwy gydol y digwyddiad. Roedd cerddoriaeth fyw yn uchafbwynt mawr gydag amrywiaeth o berfformwyr, gan gynnwys perfformiadau teyrnged i Tom Jones ac eiconau eraill Cymru, yn ogystal â chaneuon traddodiadol poblogaidd a oedd yn annog y gynulleidfa i gydganu.

Roedd y gefnogaeth gan fusnesau lleol yn eithriadol, gyda llawer yn ymestyn eu presenoldeb i’r strydoedd, drwy ddosbarthu gwybodaeth y tu allan i’w safleoedd. Roedd ffenestri siopau hyd yn oed wedi’u haddurno’n falch â baneri Cymru.

Prif bwrpas y digwyddiadau hyn yw annog ymwelwyr i ddod i ganol ein trefi, ac yn sicr, fe wnaeth y digwyddiad hwn gyflawni hynny. Nesaf, bydd Coed Duon yn cynnal y Parti Traeth blynyddol ddydd Sadwrn 18 Gorffennaf a’r Farchnad Nadolig, Cynnau’r Goleuadau Nadolig a Gorymdaith Lusernau Cerddoriaeth a Goleuni ddydd Sadwrn 28 Tachwedd, sef rhagor o ddyddiadau allweddol i’w hychwanegu at eich dyddiadur. Mae’r digwyddiadau hyn yn codi proffil ein trefi ac yn cyflwyno ymwelwyr i’r dewis helaeth o fusnesau lleol yn y stryd fawr.

Dywedodd Maer Coed Duon, y Cynghorydd George Etheridge, ar ran Cyngor Tref Coed Duon,

“Roedd yr Ŵyl Fawr Gymreig yn ddigwyddiad gwych y mae llawer o bobl wedi’i fwynhau, ac roedd yr haul yn disgleirio drwy’r dydd sydd bob amser yn fonws! Rhoddodd masnachwyr adborth cadarnhaol a phostio lluniau gwych ar Facebook. Hoffen ni ddiolch i fusnesau Bargod, Caerffili, Rhisga ac Ystrad Mynach am eu cymorth i hysbysebu’r ŵyl yng nghanol eu trefi. Roedd mor braf gweld y bartneriaeth gymunedol hon. Mae Cyngor Tref Coed Duon yn falch o roi cymorth ariannol i ddigwyddiadau o’r fath ac yn edrych ymlaen at weithio gyda thîm digwyddiadau Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili drwy helpu ariannu a chynnal digwyddiadau yn y dyfodol yng nghanol y dref eleni.”

Y digwyddiad nesaf yn y calendr yw Ffair y Gwanwyn, Bargod, ar ddydd Sadwrn 21 Mawrth. Mae’r manylion llawn ar gael gan Croeso Caerffili ar y wefan a’r cyfryngau cymdeithasol.

Diolch i Gyngor Tref Coed Duon a Chronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig am ariannu’r digwyddiad a Robert Price am noddi’r digwyddiad.

Dyma’r hyn a ddywedodd busnesau a masnachwyr lleol am y digwyddiad:

Eleri’s Welsh Cakes o Ben-y-bont ar Ogwr – “Roedd yr Ŵyl Fawr Gymreig yng Nghoed Duon yn llwyddiant ysgubol – heulwen, ysbryd cymunedol a digon o bice ar y maen! Cawson ni ein syfrdanu gan y gefnogaeth ac rydyn ni’n falch o ddweud y gwnaethon ni werthu popeth ar y diwrnod. Does dim byd gwell na gweld pobl yn mwynhau blas ar Gymru gyda’i gilydd.”

Busnes o Fwrdeistref Sirol Caerffili, Karen’s Bookshop, mewn partneriaeth ag Usborne – “Roedd yn hyfryd gweld cynifer o bobl yn manteisio i’r eithaf ar yr heulwen ac yn cefnogi busnesau lleol.”

Busnes o Fwrdeistref Sirol Caerffili, Banana Pudd – “Roedden ni eisiau dweud diolch yn fawr am gael PUDD yn yr Ŵyl Fawr Gymreig. Roedd yn ddiwrnod anhygoel ac wedi’i drefnu’n wych! Diolch am holl waith caled Tîm Digwyddiadau’r Cyngor i’w wneud yn ddiwrnod mor wych! Dyma’r digwyddiad cyntaf erioed i’n busnes pwdin banana ‘PUDD’ ac fe wnaethon ni werthu popeth wrth i’r haul dywynnu!”

Baked in Blackwood – “Cawson ni ddiwrnod gwych a chawson ni gwrdd â llawer o gwsmeriaid newydd. Roedd yn hyfryd gweld y dref mor brysur a darllen yr holl adborth cadarnhaol a gafodd ei bostio am y digwyddiad. Daeth y gweithgaredd ‘Dod o hyd i’r Defaid’ â llawer o blant i’n siop ni hefyd a rhoddon ni losin iddyn nhw am gymryd rhan.”

McKenzie’s Café Bar – “Llongyfarchiadau enfawr i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am gynnal digwyddiad mor wych! Roedd yn anhygoel gweld y Stryd Fawr mor brysur ag yr oedd, ac mor hyfryd gweld wynebau newydd a chyfarwydd allan yn mwynhau’r diwrnod. Roedd yn ddi-stop o’r dechrau i’r diwedd. Da iawn i’r tîm cyfan am weithio mor galed ar ddiwrnod mor brysur a’i wneud yn llwyddiant go iawn.”

Perfformiwr, Russell Jones Jr – “Ces i amser gwych yn perfformio yn yr Ŵyl Fawr Gymreig yng Nghoed Duon ar gyfer Dydd Gŵyl Dewi. Roedd yn anrhydedd llwyr perfformio a dathlu popeth gwych am Gymru. Roedd mor hyfryd gweld wynebau cyfarwydd, selogion a rhannu’r llwyfan gyda thalent wych.”

Diddanwr, Katie & Friends – “Mae digwyddiadau fel hyn yn ein hatgoffa ni pa mor bwerus mae cysylltiad, diwylliant a charedigrwydd mewn gwirionedd. Roedd ein Tylwyth Teg Celtaidd wrth ei bodd yn rhannu gwên, sgyrsiau caredig, a thaenu ychydig o hud natur ar hyd y ffordd! Diolch o galon i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili (a Chyngor Tref Coed Duon!) am ddod â phawb at ei gilydd a dathlu Cymru mewn ffordd mor wych. Rydw i’n teimlo’n falch iawn o fod wedi bod yn rhan ohono.”

Postiadau diweddar