Disgyblion Ysgol Gynradd Waunfawr yn coginio rhywbeth arbennig ar gyfer Gŵyl Bwyd a Diod Caerffili

  Cyhoeddwyd: 13 Ebrill, 2026
  Amser darllen: 3m

Mae disgyblion blwyddyn 6 yn Ysgol Gynradd Waunfawr wedi bod yn cymryd rhan mewn prosiect cynaliadwyedd a dinasyddiaeth fyd eang atyniadol wedi’i ddarparu gan Maint Cymru, mewn cydweithrediad â thimau Caffael ac Arlwyo Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili.

Mae Maint Cymru yn elusen sy’n gweithio i wneud Cymru yn rhan o’r datrysiad byd eang i newid yn yr hinsawdd. Mewn partneriaeth â phobl gynhenid a chymunedau lleol ledled y byd, mae’n helpu i sicrhau a chynnal o leiaf 2 miliwn hectar o goedwig drofannol, sef ardal sydd yr un maint â Chymru. Mae’r elusen hefyd yn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd trwy ysbrydoli a grymuso pobl yng Nghymru i gynorthwyo ymdrechion i amddiffyn ac adfer coedwigoedd trofannol.

Dros gyfnod o dair wythnos, mae disgyblion wedi cymryd rhan mewn cyfres o weithdai rhyngweithiol wedi’i chyflwyno gan Maint Cymru, gan arwain at sesiwn diwrnod llawn yr wythnos diwethaf. Cyflwynodd y sesiynau hyn sawl peth i’r dysgwyr; y cysyniad o gadwyni cyflenwi byd-eang, yr effaith gudd cynhwysion sy’n ‘peri risg i goedwigoedd’ (cig eidion o Dde America, olew palmwydd, soi mewn bwyd anifeiliaid, coffi a chacao), a’r pwysigrwydd o wneud dewisiadau cyfrifol ynghylch bwyd sy’n ecogyfeillgar.

Gyda chymorth timau Caffael ac Arlwyo’r Cyngor, roedd disgyblion yn archwilio sut mae bwyd pob dydd yn cysylltu â materion fel datgoedwigo ac ôl troed amgylcheddol gwahanol gynhwysion. Fel rhan o’r rhaglen, cymeron nhw ran mewn gweithgaredd dadansoddi bwydlenni’n fanwl, gyda’r dasg o ailgynllunio pryd o fwyd ysgol. Roedd angen i’r pryd wella gwerth maethol, parhau i fod yn gost-effeithiol, a lleihau’r dibyniaeth ar gynhwysion sy’n gysylltiedig â datgoedwigo byd eang.

Bydd y pryd terfynol, wedi’i greu’n llwyr gan y disgyblion, yn cael ei ddadorchuddio yng Ngŵyl Bwyd a Diod Caerffili ddydd Sadwrn 18 Ebrill 2026. Bydd y bobl ifanc yn cyflwyno eu rysáit ac yn rhannu’r hyn maen nhw wedi’i ddysgu gyda James Nathan ag ymwelwyr yr ŵyl. Bydd James yn rhoi adborth ar y pryd wrth i’r disgyblion baratoi i’w gyflwyno i Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn ddiweddarach eleni.

Bydd mynychwyr yr ŵyl yn cael cyfle i flasu’r pryd yn rhad ac am ddim. Gall y mynychwyr hefyd glywed yn uniongyrchol gan y disgyblion a James Nathan am y cynhwysion sy’n gysylltiedig â datgoedwigo trofannol, wedi’u cyflwyno mewn ffordd hwyliog, hygyrch ac atyniadol.

Mae ymwelwyr yn cael eu hannog i ddod i gwrdd â’r tîm yn y stondin Maint Cymru rhwng 11am ac 1pm.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili: “Rydyn ni mor hapus ein bod wedi gweithio gyda Maint Cymru ar y prosiect hwn. Mae’r disgyblion wedi dangos creadigrwydd ac ymwybyddiaeth eithriadol. Nid yn unig o ran deall systemau bwyd byd eang, ond o ran dylunio datrysiadau ymarferol ac ystyrlon. Mae eu brwdfrydedd dros gynaliadwyedd wedi bod yn ysbrydoledig.”

Dywedodd llefarydd ar ran Maint Cymru: “Dylen ni fod yn gweini bwyd mewn ysgolion sydd ddim yn arwain at ddatgoedwigo trofannol dramor. Mae pobl ifanc yn deall hyn yn syth, a thro ar ôl tro maen nhw’n dangos bod modd dylunio prydau sydd ddim yn cyfranu at ddatgoedwigo, sydd hefyd yn iachus ac yn faethlon. Gall y prydau hyn gynorthwyo’r blaned, cryfhau economïau gwledig lleol, darparu gwerth am arian cyhoeddus, a maethu cyrff sy’n tyfu.

“Rydyn ni wedi bod yn falch iawn o weithio gyda chyngor blaengar arall sydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â’r bobl ifanc mae’n eu gwasanaethu. Trwy ddarparu bwyd sydd nid yn unig yn dda iddyn nhw heddiw, mae hefyd yn cynorthwyo eu dyfodol wrth iddyn nhw dyfu’n oedolion ar y blaned yma.”