
Ymunwch â Chymdeithas Dwristiaeth Caerffili
Grŵp o fusnesau twristiaeth lleol sydd wedi ymrwymo i gynnig gwyliau delfrydol neu daith fusnes ddelfrydol i ymwelwyr yw Cymdeithas Dwristiaeth Caerffili.
Prif swyddogaeth Cymdeithas Dwristiaeth Caerffili yw dod â gweithredwyr twristiaeth ynghyd, gan ffurfio un llais i atgyfnerthu’r diwydiant twristiaeth a chynyddu nifer yr ymwelwyr â Bwrdeistref Sirol Caerffili yn y pen draw.
Fel aelod o’r Gymdeithas, byddwch chi’n elwa ar y canlynol:
- Rhestriad gyda lluniau yn discovercaerphilly.co.uk
- Rhestriad yn visitcaerphilly.com
- Cyfleoedd i rwydweithio
- Cyfleoedd hyfforddi
- Cylchlythyrau’r diwydiant (gan gynnwys gwybodaeth am grantiau, cyllid a deddfwriaeth)
- Bod yn aelod o’r grŵp caeedig ar Facebook
- Mynediad i’r ardal breifat i aelodau yn discovercaerphilly.co.uk
- Cael pwynt cyswllt cyffredinol
- Cyfleoedd cyffredinol o ran marchnata, y cyfryngau a chysylltiadau cyhoeddus
- Mynychu cyfarfodydd y Gymdeithas (gan gynnwys siaradwyr gwadd a chyflwyniadau)
- Cymeradwyaeth drwy gael logo’r Gymdeithas ar eich deunydd marchnata a’ch gwefan
- Posibilrwydd o gael eich cynnwys yn y daflen atyniadau/weithgareddau, os yw’n berthnasol
Hyn i gyd am £50 yn unig am flwyddyn o aelodaeth. (Mae modd ymaelodi unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn.)
I gael rhagor o wybodaeth, neu os hoffech chi drafod ymuno â Chymdeithas Dwristiaeth Caerffili, anfonwch neges e-bost i info@discovercaerphilly.co.uk
Os ydych chi’n siŵr yr hoffech chi ymuno â’r Gymdeithas, llenwch y ffurflen isod. Ar ôl i’r ffurflen ddod i law, bydd anfoneb yn cael ei hanfon atoch chi. Ar ôl i’r taliad ddod i law, bydd Gweinyddwr Prosiectau y Gymdeithas yn cysylltu â chi i ddechrau actifadu eich buddion.
Yn anffodus, heb ddelweddau addas, nid oes modd i ni eich ychwanegu chi at wefan Croeso Caerffili. Dylai delweddau fod yn 1400px (lled) o ran maint, gyda chymhareb ddelfrydol o 3/2.