Digwyddiadau a Gweithgareddau Gwyliau’r Haf 2026 ym Mrwdeistref Sirol Caerffili
20 Gorffennaf, 2026
Amser darllen: 14m
Mae Parc Penallta, Parc Cwm Darran, Mynwent Brithdir, Parc Waunfawr a Choedwig Cwmcarn yn falch o fod yn chwifio Baneri Gwyrdd ar ôl cael eu henwi yng Ngwobrau Baner Werdd 2026.
Cyhoeddodd Cadwch Gymru’n Daclus heddiw fod 330 o barciau a mannau gwyrdd ledled Cymru wedi cyrraedd y safonau uchel sydd eu hangen i chwifio’r Faner Werdd ar gyfer 2026. Mae hyn yn cynnwys 93 o safleoedd sydd wedi cyflawni statws llawn Gwobr y Faner Werdd a 237 sydd wedi derbyn Gwobr Gymunedol y Faner Werdd. Cyflawnodd pedwar ar ddeg o’r safleoedd hyn Achrediad Safle Treftadaeth Werdd, a gefnogir gan Cadw, ar gyfer dangos ymrwymiad i warchod a hyrwyddo eu hanes unigryw.
Dyfarnwyd Gwobrau llawn y Faner Werdd i Barc Penallta, Parc Cwm Darran, Mynwent Brithdir, Parc Waunfawr a Choedwig Cwmcarn i gydnabod eu bod yn ddiogel, yn cael eu cynnal a’u cadw’n dda ac yn lân, gyda rheolaeth amgylcheddol ragorol, ac yn lleoedd croesawgar. Mae’r 330 o safleoedd ledled Cymru yn cynnwys parciau, campysau prifysgol, coetir cymunedol, mynwentydd ac ystadau tai.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Morgan, Aelod Cabinet dros Fannau Gwyrdd:
“Rydym wrth ein bodd bod pump o’n mannau gwyrdd wedi cael eu cydnabod â Gwobrau’r Faner Werdd. Mae hyn yn adlewyrchu gwaith caled ac ymrwymiad pawb sy’n ymwneud â chynnal y mannau pwysig hyn ar gyfer ein cymunedau.”
Mae’r gwobrau’n cael eu cydnabod mewn dros 20 o wedydd ac yn gwobrwyo’r parciau a’r mannau gwyrdd gorau, fel bod ymwelwyr yn gwybod ble bynnag mae Baner Werdd, eu bod yn ymweld â lle â’r safonau uchaf.
Yng Nghymru, mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Cadwch Gymru’n Daclus. Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru’n Daclus:
“Mae Cymru yn gosod safon o ran mannau gwyrdd rhagorol, gyda 330 o leoedd yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau y Faner Werdd eleni. O barciau blaenllaw a choetir bywiog i safleoedd hanesyddol a mannau cymunedol, mae Cymru wedi dangos flwyddyn ar ôl blwyddyn bod ganddi ymrwymiad diwyro tuag at feithrin mannau gwyrdd cynhwysol y gall pawb eu mwynhau.
“Rydym yn arbennig o falch o holl enillwyr Gwobr Gymunedol y Faner Werdd sydd yn cyrraedd safonau uchel y wobr oherwydd gwaith caled ac ymroddiad gwirfoddolwyr sy’n rhoi eu hamser a’u sgiliau i sicrhau bod y mannau arbennig hyn yn ffynnu ac y gall llawer o bobl eraill eu mwynhau. Mae mannau gwyrdd yn chwarae rôl hanfodol yn cefnogi iechyd a lles cymunedau ledled Cymru a hoffem ddiolch i bawb sydd yn chwarae rhan yn hynny.”
Mae rhestr lawn o enillwyr y wobr ar gael ar wefan Cadwch Gymru’n Daclus www.keepwalestidy.cymru