Blackwood Miners’ Institute

Y diweddaraf – Awst 2021

Rydyn ni’n falch iawn o gyhoeddi y byddwn ni’n ailagor ein drysau unwaith eto yn ystod mis Medi a byddwn ni’n cadarnhau ein dyddiad agor yn fuan iawn! Ni allwn ni aros i weld ein cwsmeriaid rheolaidd yn ogystal â chroesawu ymwelwyr newydd i’r adeilad. Bydd gennym ni’r trefniadau canlynol i wneud eich ymweliad â ni mor ddiogel a phleserus â phosibl.

• System unffordd o amgylch yr adeilad
• Cwsmeriaid a’n tîm yn y lleoliad i wisgo mygydau.
• System gwirio tocynnau hawdd yn rhad ac am ddim a heb gyswllt
• System archebu ymlaen llaw ar gyfer diodydd cyn y perfformiad ac yn ystod yr egwyl
• Awyr iach wedi’i gylchredeg trwy’r awditoriwm
• Nifer o orsafoedd diheintio dwylo o amgylch yr adeilad
• Bydd ein tîm ‘Stiwt’ wrth law i ateb unrhyw gwestiynau ac ar gyfer cynnal amgylchedd pleserus a diogel.

Mae gennym ni sioeau newydd gwych, rhai digwyddiadau wedi’u haildrefnu ac un o’r pantomeimau gorau, sef Cinderella, i edrych ymlaen atynt. Gallwch chi archebu tocynnau ar-lein ac mae ein Swyddfa Docynnau nawr ar agor bob dydd Mawrth a dydd Mercher rhwng 10am a 4pm i gymryd archebion neu ar gyfer unrhyw ymholiadau. Os oes gennych unrhyw ymholiadau, gallwch chi hefyd gysylltu â ni ar SefydliadYGlowyrCoedDuon@caerffili.gov.uk Am y wybodaeth a chanllawiau diweddaraf o ran y cyfyngiadau symud lleol, ewch i wefan Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili:COVID-19 : yr wybodaeth cyngor a chymorth diweddaraf

Mae Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau celfyddydol ac adloniant gan gynnwys enwau adnabyddus o fyd cerddoriaeth ac adloniant ysgafn.

Gall ymwelwyr gael profiad o gwmnïau theatr, dawns ac opera o’r safon uchaf yn ogystal â pherfformiadau ategol gan sefydliadau a grwpiau lleol.

Mae rhestr lawn o ddigwyddiadau a sioeau sydd i ddod ar wefan Sefydliad y Glowyr Coed Duon, a gallwch brynu tocynnau ar-lein hefyd.

Essential information

Address
Address
High Street, Blackwood
NP12 1BB
Contact Name
Contact
Giles Ballisat
Email
Email Address
bmi@caerphilly.gov.uk
Phone
Phone
01495 227206
Website
Website
Website
Website
Social Media
Facebook Page
CTA Member

You may also be interested in: