Neuadd y Gweithwyr, Caerffili

Mae Neuadd y Gweithwyr, Caerffili, yn lleoliad celfyddydau ac adloniant cymunedol yng nghanol y dref sy’n cael ei rhedeg gan grŵp bach ond ymroddedig o wirfoddolwyr.

Mae modd defnyddio’r llwyfan yn y brif neuadd ar gyfer pob math o ddigwyddiadau a sioeau – gan gynnwys dramâu, digrifwyr ar eu traed, gigiau roc a phantomeimiau. Mae lle yn y neuadd i gynulleidfa o tua 400 o bobl, ac mae offer goleuo a sain ar gael i’w defnyddio.

Ym 1906, fe wnaeth grŵp o weithwyr lleol y glofeydd ddechrau’r mudiad lles yng Nghaerffili. Fe wnaethon nhw sefydlu mudiad lles yn y dref, gan roi cyfran o’u cyflogau wythnosol i’r gronfa. Ym 1925, cafodd Neuadd y Gweithwyr, Caerffili, ei hagor i’r cyhoedd; roedd hi’n cynnwys ystafell gemau, ystafell snwcer, llyfrgell ac ystafell ddarllen, yn ogystal â’r brif neuadd a oedd yn gartref i sinema ac adloniant.

Yn ystod y 1990au, cafodd statws rhestredig Gradd II ei roi i Neuadd y Gweithwyr, Caerffili. Sefydliad Lles Cymdeithasol y Diwydiant Glo (CISWO) sy’n berchen ar y Neuadd, a grŵp penderfynol o wirfoddolwyr sy’n ei rhedeg a’i chynnal.

Ydych chi eisiau llogi’r neuadd er mwyn cynnal digwyddiad? Byddwn ni bob amser yn fodlon trafod eich gofynion. Cysylltwch â ni i gael sgwrs neu i drefnu ymweld â’r Neuadd.

Mae Neuadd y Gweithwyr, Caerffili, bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr, felly, os hoffech chi fod yn rhan o bethau, cysylltwch â ni.

Essential information

Address
Address
Caerphilly Workmen's Hall, Pontygwindy Road,
CF83 3HD
Email
Email Address
fullybookedcim@aol.com
Phone
Phone
07512237983
Website
Social Media
Facebook
CTA Member

You may also be interested in: