Cynefin yn cyflwyno: The Muppet Christmas Carol (U) a chyflwyniad arbennig gyda’r pypedwr, Basil Marriott-Waite

Noder, mae'r digwyddiad hwn wedi mynd heibio
  Y Banc, 8 Y Twyn, Caerffili CF83 1JN
  029 2088 2268   info@cynefincaerffili.org   Ewch i'r wefan

Ymunwch â Cynefin Caerffili, yn y Banc, ar gyfer dangosiad arbennig o’r ffilm The Muppet Christmas Carol, gyda chyflwyniad gan y pypedwr, a chyfarwyddwr The OverTheres, Basil Marriott-Waite.

  • Dyddiad: Dydd Llun 8 Rhagfyr 2025
  • Amser: Drysau’n agor 5.30pm. Cyflwyniad a ffilm yn dechrau 6pm.
  • Hyd: 1 awr 25 munud
  • Cyfarwyddwr: Brian Henson
  • Gyda: Michael Caine, Dave Goelz, Steve Whitmire.

Mae’r gŵr crintachlyd, Scrooge, yn meddwl ei fod yn breuddwydio wrth i ysbrydion Nadolig y gorffennol, y presennol a’r dyfodol yn ymweld ag ef ar Noswyl Nadolig. Ynghyd â charedigrwydd a diymhongarwch Bob Cratchit a’i deulu (wedi’u chwarae gan Kermit the Frog a Miss Piggy), mae’r ysbrydion hyn yn agor llygaid Scrooge i wir ystyr y Nadolig. A hithau wedi’i hadrodd gan Charles Dickens (sef Gonzo), ac â phypedwaith hyfryd a chaneuon bachog, mae’r ffilm hon yn ffordd wych o ddechrau dathlu tymor y Nadolig.

Mae pob tocyn yn cynnwys un ddiod am ddim.
Mae hyn yn cynnwys pob diod feddal, te, coffi, neu siocled poeth (mae diodydd dialcohol eraill o’r bar wedi’u heithrio o’r cynnig hwn).
Mae modd uwchraddio i siocled poeth moethus (gyda hufen a malws melys) am 50c.

  • Tocynnau safonol: £5.00 (yn cynnwys oedolyn a’r plentyn cyntaf o dan 16 oed) a ffi archebu Eventbrite
  • Tocynnau brodyr a chwiorydd: £3.50 (ar gyfer plant ychwanegol o dan 16 oed o’r un teulu) a ffi archebu Eventbrite

Rhaid i blant dan 12 oed fod yng nghwmni oedolyn (18 oed neu’n hŷn).

*Ni fydd neb yn cael ei wrthod oherwydd diffyg arian* Os yw pris y tocyn yn golygu efallai na fyddwch chi’n gallu dod, rhowch wybod i Cynefin Caerffili. Manylion cyswllt: info@cynefincaerffili.org neu 029 2088 2268.

Gwybodaeth bellach

Cyfryngau cymdeithasol

Dolenni eraill

Lleoliad